Aneurin Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Ieithgi (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Aneurin Owen''' ([[23 Gorffennaf]] [[1792]] - [[17 Gorffennaf]] [[1851]]) yn hanesydd ac ysgolhaig Cymreig, sy'n fwyaf adnabyddus fel awdur argraffiad o [[Cyfraith Hywel|Gyfreithiau Hywel Dda]].
 
Ganed ef yn [[Llundain]], yn fab i [[William Owen Pughe]]. Fe fu yn fyfyriwr yn Ysgol Friars, [[Bangor]], ond addysgwyd ef gan ei dad yn bennaf. Priododd Jane Lloyd o Nantglyn yn 1820. Bu'n gomisiynydd cynorthwyol y [[degwm]] yng Nghymru a Lloegr, yna'n yn gomisiynydd cynorthwyol [[Deddf y Tlodion]] ac wedyn yn un o gomisiynwyr [[cau'r tiroedd comin]].
 
Roedd [[John Humffreys Parry]] wedi dechrau paratoi argraffiad o Gyfraith Hywel, ond pan fu efhwnnw farw heb orffen y gwaith cwblhawyd ef gan Owen, a'i cyhoeddodd yn [[1841]] fel ''Ancient Laws and Institutes of Wales''. Ef oedd y cyntaf i wahaniaethu rhwng y tair fersiwn o'r cyfreithiau. Bu hefyd yn gweithio ar argraffiad o ''[[Brut y Tywysogion]]'' ond bu farw cyn gorffen y gwaith; cyhoeddwyd y fersiwn derfynol yn [[1860]] gan [[John Williams "ab Ithel"]] heb gydnabyddiaeth o waith Owen. Bu farw yn Nhrosyparc ger [[Dinbych]].