Waldo Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Trefelio (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Bywgraffiad: - achos marwolaeth ei wraig
Llinell 7:
Roedd yn saith oed yn dysgu [[Cymraeg]] pan symudodd y teulu i [[Mynachlog-ddu|Fynachlog-ddu]] yng ngogledd [[Sir Benfro]], [[1911]] - [[1915]] lle roedd ei dad yn brifathro ar yr ysgol gynradd. Yn [[1915]] daeth ei dad yn brifathro ar Ysgol Brynconin, Llandisilio a daeth y teulu'n aelodau o eglwys y Bedyddwyr, Blaenconin lle roedd y Parch [[T.J. Michael (Gweinidog)|T J Michael]] yn weinidog; heddychwr arall. Mynychodd Ysgol Ramadeg Arberth cyn mynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a graddio yn [[1926]] mewn Saesneg. Yn dilyn hyfforddiant fel athro bu'n dysgu mewn nifer o ysgolion yn Sir Benfro. Bu hefyd yn dysgu yng Ngogledd Cymru a Lloegr. Bu hefyd yn diwtor dosbarthiadau nos a drefnid gan Adran Efrydiau Allanol, [[Coleg y Brifysgol Aberystwyth]].
 
Priododd Linda yn 1941, ond bu hihithau farw o'r [[diciâu]] yn 1943, a wnaeth e ddim priodi eilwaith. Cyfeiriodd droeon at y blynyddoedd hyn fel 'y blynyddoedd mawr'.
 
Roedd yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]]. Rhyddhawyd ef yn ddiamod yn dilyn ei ddatganiad gerbron tribiwnlys yng Nghaerfyrddin, 12 Chwefror, 1942.<ref>Datganiad Waldo [[y Traethodydd]] hydref 1971.</ref>