Clément Marot: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: hu:Clément Marot
B →‎Ei Waith: cywirio dolen
Llinell 10:
Roedd Marot yn ysgolhaig a chyfieithydd yn ogystal, a chyhoeddodd olygiad o'r gerdd ganoloesol [[Le Roman de la Rose]] yn [[1527]] a hefyd golygiad o waith [[François Villon]] ([[1431]]-?) yn [[1533]]. Roedd yn Lladinwr hefyd a chyhoeddodd gyfieithiad o ran o [[Metamorphoses]] [[Ofydd]] (Ovid) yn [[1530]]. Dyfnhaodd ei wybodaeth o'r [[Lladin]] yn ystod ei alltudiaeth yn yr Eidal; cyfieithodd rai o [[Epigram|epigramau]] [[Marcus Valerius Martialis|Martial]] a throsiad o 4edd [[Eclog]] [[Fferyll]] (Virgil). Yn yr Eidal hefyd daeth yn gyfarwydd â'r [[soned]] ac roedd un o'r Ffrancwyr cyntaf i gyfansoddi sonedau.
 
Nodweddir ei gerddi gan gymysgedd o ysgafnder anghyfrifol a dwysder ysbrydol sydd efallai'n nodweddiadol o'r dyn a'i oes. Mae ei gerddi niferus yn amrywiol iawn eu cynnwys a'u [[mydr]] ond mae'r rhan fwyaf yn gerddi cymharol byr, yn [[Epistol|epistolau]], eclogau, [[Rondeau|rondeaux]], [[Chanson|chansons]], [[Marwnad|marwnadau]] ac [[Epigram|epigramau]]; ffurfiau traddodiadol sy'n cael bywyd newydd dan law Marot. Mae beirniadaeth o ddiwinyddion y [[Sorbonne]], y [[Y BabaethFatican|Babaeth]] ac [[Urdd ySant FfransisiaidFfransis]] yn elfen gyson yn ei waith ond mae hefyd yn medru canu'n bêr ar bynciau fel natur a chariad. Gellid ystyried gwaith Clément Marot fel pont rhwng yr [[Yr Oesoedd Canol|Oesoedd Canol]] â'i hoffter o gerddi [[Alegori|alegorïaidd]] [[didactaidd]] a'r ysbryd newydd a flodeuodd yn yr 16eg ganrif.
 
== Llyfryddiaeth ==