Bill Gates: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Osian (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 03:47, 14 Gorffennaf 2005
Bill Gates (ganed 28 Hydref, 1955), neu William Henry Gates III a rhoi iddo'i enw llawn, yw cyd-sylfaenydd a phennaeth cwmni cyfrifiadurol Microsoft. Ef yw'r dyn cyfoethocaf yn y byd ers sawl blwyddyn bellach. Gadawodd Brifysgol Harvard heb raddio er mwyn dilyn ei freuddwyd o greu meddalwedd gyfrifiadurol. Oherwydd ei ddulliau dadleuol o hybu llwyddiant Microsoft drwy sathru ar unrhyw gystadleuaeth a cheisio creu monopoli i'w gynnyrch, mae wedi ennyn cryn dipyn o feirniadaeth ar hyd y blynyddoedd; ond dywed ei bleidwyr ei fod yn ddyngarwr, a'i fod wedi rhoi mwy na $28 biliwn i elusennau yn y blynyddoedd diwethaf.