Ebenezer Thomas (Eben Fardd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Bardd ac ysgolfeistr oedd '''Ebenezer Thomas''', mwy adnabyddus wrth ei enw bardddol, '''Eben Fardd''' (Awst [[1802]] - [[17 Chwefror ]] [[1863]]). Ganed ef gerllaw [[Llangybi]] yn [[Eifionydd]], yn fab i wehydd. Addysgwyd ef yn [[Llanarmon]], Llangybi ac [[Abererch]]. Pan fu farw ei frawd, Evan, oedd yn cadw ysgol yn Llangybi, cymerodd ofal yr ysgol yn 1822. Daeth i adnabod beirdd amlwg y cylch, [[Robert ap Gwilym Ddu]] a [[Dewi Wyn]], a dechreuodd farddoni ei hun. Yn [[1824]] enillodd gadair Eisteddfod Powys yn [[y Trallwng]] gydag awdl ''Dinystr Jerusalem gan y Rhufeiniaid''. Yn [[1825]] aeth i gadw ysgol yn Llanarmon, ac yn [[1827]] aeth i [[Clynnog Fawr|Glynnog Fawr]]. Yn [[1830]] priododd Mary Williams, Clynnog, a chawsantbedwar o blant. Enillodd wobr yn Eisteddfod Lerpwl yn [[1840]] gydag awdl ''Cystudd, Amynedd, ac Adferiad Iob'', a chyhoeddodd yr awdl honno a ''Dinystr Jerusalem'' yn [[1841]]. Yn 1858 enillodd yn Eisteddfod Llangollen gydag awdl ''Brwydr Maes Bosworth''. Bu feirniad mewn nifer fawr i eisteddfodau, ac ystyrid ef yn un o feirdd pwysicaf ei gyfnod. Cyfansoddodd nifer o emynau hefyd. Claddwyd ef ym mynwent eglwys Clynnog.
 
==Cyhoeddiadau==