Gwydr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Gweler hefyd: clean up using AWB
hanes (testun o'r Gwyddoniadur Cymreig)
Llinell 1:
[[Delwedd:Glass-Ball.jpg|200px|de|bawd|Sffêr gwydr o Verrerie de Bréhat, [[Llydaw]].]]
Mae gan '''wydr''' strwythur gronynnol sydd rhwng diffiniadau o [[solid]] a [[hylif]]. Dros amser, mae'r strwythr yn newid yn ffisegol drwy symudiad y gronynnau.
 
== Hanes ==
Nid ydys yn sicr pa bryd y darganfyddwyd y gelfyddyd о wneuthur gwydr. Dywed [[Plinius yr Hynaf]] ei bod wedi cael ei darganfod trwy ddamwain. Rhyw fasnachwyr, meddai, a gynneuasant dân ar y parth hwnnw о lannau [[Ffenicia]] sydd yn gorwedd yn agos i Ptolemais, rhwng troed mynydd Carmel a Tyrus, yn y fan lle y mae Afon Belus yn bwrw y [[tywod]] mân a ddwg i lawr gyda hi yn ei llwybr o'r mynydd; ond gan nad oeddynt yn meddu y taclau angenrheidiol i grogi eu llestri coginiol uwch ben y tân, hwy a ddefnyddiasant [[natron]] i wneud y diffyg i fyny. Yr oedd gwres y tân yn toddi y natron, yr hwn a ddisgynai yn ddiferion ar y tywod; ac yn y man, cynnyrchwyd ffrwd dryloyw brydferth iawn. Hyn, meddir, a roddodd y syniad cyntaf i ddyn am wneuthuriad gwydr. Darfu i'r [[Sidoniaid]], y rhai oeddynt yn trigo yn yr ardal, wneud defnydd o'r darganfyddiad; ac wedi iddynt mewn amser berffeithio y gelfyddyd, ennillasant iddynt eu hunain gyfoeth ас enwogrwydd mawr. Efelychwyd hwy gan genhedloedd eraill; ac fe ddaeth у [[Rhufeiniaid]], yn enwedig, i ddeall yn dda у gelfyddyd о chwythu, toddi, a lliwio gwydr. Fe ddyfeisiwyd hyd yn oed [[drych|ddrychau]] gwydr gan у Sidoniaid. Y mae yr hanes yma, a roddir i ni gan Plinius, yn cael ei gadarnhau gan [[Strabo]] a [[Josephus]]; ond er gwaethaf y dystiolaeth eglur a geir gan yr awduron hyn, buwyd yn gwadu yn hir fod yr hynafiaid yn gwybod dim am wydr. Modd bynag, y mae ein gwybodaeth ynghylch yr Aifft wedi penderfynu y pwnc yn ddigon boddhaol. Y mae Wilkinson, yn ei lyfr ar yr [[Hen Aifft|Hen Eifftiaid]], уn dwyn tystiolaeth gyflawn ac eglur fod gwydr yn cael ei wneuthur gan y bobl gelfyddgar hyny yn un o gyfnodau boreuaf eu bodolaeth fel cenedl. Y mae yn ymddangos eu bod yn gwybod am y gelfyddyd о chwythu gwydr ers dros 3,500 o flynyddoedd yn ol—yn amser teyrnasiad yr Osirtasen cyntaf. Мае у modd yr oeddynt yn chwythu у gwydr yn cael ei arddangos ar arluniau о waith Beni Hassan, wedi eu paentio yn nheyrnasiad y brenin hwnw.
 
Yr oedd lluniau [[priddlestr]]i wedi eu gwydrolchi yn yr un cyfnod yn bethau pur gyffredin. Gwnaed addurniadau о wydr ganddynt tna 1,500 о flynyddoedd CC; о blegid daethpwyd o hyd i [[glain (mwclis)|lain]] o'r dyddiad hwnw, ac yn ei natur o'r un gwneuthuriad a'n gwydr [[ffenestr]]i goreu ni. Cafwyd amryw o gostreli gwydr ac ati mewn hen gladdfeydd Eifftaidd, a rhai ohonynt yn dwyn arwyddion o henaint mawr. Defnyddiwyd llestri gwydr i ddal [[gwin]] mor bell yn âl a mynediad yr Israeliaid allan o'r Aifft. Мог gywrain ydoedd yr Eifftiaid yn y gelfyddyd o wneuthur gwydr, fel y llwyddasant i'w werthu yn fynych yn lle yr [[amethyst]], a meini gwerthfawr ereill. Y mae Winckelman yn barnu fod gwydr yn cael ei ddefnyddio yn amlach yn yr hen, nag yn yr amseroedd diweddar. Defnyddid ef weithiau gan yr Eifftiaid hyd yn oed i wneuthur eirch. Yr oeddynt yn ei ddefnyddio, nid yn unig i wneud diodlestri ac addurniadau i'r corff, ond hefyd i wneud [[brithwaith]], ffugr-dduwiau, ac arwyddluniau cysegredig, o'r crefftwaith mwyaf cywrain a destlus, a'u lliwiau yn hynod о ddysglair. Yr oedd у gelfyddyd o dorri gwydr yn adnabyddus iddynt er yn fore iawn; ac i'r diben yma, fel у dysgir ni gan Plinius, yr oeddid yn arfer y [[diemwnt]]. Fod gan yr hynafiaid ddrychau о wydr sydd amlwg oddi wrth yr hyn a ddywed Plinius wrthym (Hist. Nat. xxxvii. 4); ond y mae y drychau a ddarganfyddwyd yn yr Aifft wedi eu gwneud o [[metel|fetel]] cymysg, [[copr]] yn bennaf. Yr oedd yr Eifftiaid wedi llwyddo i drin meteloedd mor gywrain. fel yr oeddynt yn medru eu caboli i'r fath berffeithrwydd nad ydys yn awr yn gallu ei gyrhaedd ond mewn rhan. Yr oedd у drych braidd yn grwn, â chanddo glust o [[pren|bren]], [[carreg]], neu fetel. Yr oedd у ffurf yn amrywio yn ôl chwaeth y meddiannydd. Defnyddid yr un math o ddrychau metel gan yr Israeliaid, y rhai yn ôl traddodiad a'u dygasant gyda hwy o'r Aifft. Yn [[Llyfr Exodus]] xxxviii. 8, dywedir yn bendant fod [[Moses]] wedi gwneuthur "noe bres, a'i thraed о bres, о ddrychau (drychau près gwragedd)."
 
Buasai yn rhesymol i ni dybied fod yr Israeliaid wedi derbyn eu gwybodaeth am y modd i wneuthur gwydr yn yr Aifft, oni bai fod tystiolaeth hanesiaeth yn dyweyd wrthym mor bendant ei fod wedi cael ei ddarganfod a'i wneuthur ganddynt o fewn eu tiriogaeth eu hunain. Pa un a ddefnyddiwyd ef ganddynt i wneyd drychau, sydd bwnc arall. Y mае yn ymddangos, modd bynag, tu hwnt i ddadl, fod gwydr yn beth adnabyddus i'r Israeliaid. Credir fod y gair [[Hebraeg]] am [[crisial|grisial]] yn [[Llyfr Job|Job]] xxviii. 17, yn golygu gwydr.
 
Yn [[y Testament Newydd]], cyfeirir at wydr fel arwyddlun о burdeb a gloewder: [[Datguddiad Ioan]] iv. 6; xv. 2; xxi. 18. Y mae y gair yn cael ei grybwyll hefyd mewn tri lle arall: [[Llythyr Cyntaf Paul at y Corinthiaid|1 Cor.]] xiii. 12; [[Ail Lythyr Paul at y Corinthiaid|2 Cor.]] iii. 18; [[Llythyr Iago|Iago]] i. 23. Y mae yn ymddangos yn hynod, er fod gallu adlewyrchol gwydr yn hysbys i'r hynafiaid, ac er fod y Sidoniaid wedi ei ddefnyddio i wneud drychau, nad oedd drychau gwydr yn bethau mwy cyffredin yn eu plith, gan fod rhai mettel yn llai perffaith, yn fwy costus, ac yn fwy anhawdd i'w cadw mewn cyflwr addas i'w defnyddio.
 
Y mae y gelfyddyd о wneuthur gwydr wedi cyrhaedd graddau uchel iawn о berffeithrwydd erbyn hyn. Yn y 19g, cafodd bum math o wydrau eu gwneud yng [[Gwledydd Prydain|ngwledydd Prydain]] ac [[Iwerddon]], ac adnabyddir hwy wrth yr enwau canlynol: gwydr ffenestri, gwydr plât, gwydr fflint, gwydr llydan, a gwydr potel. Y mae eu defnyddiau yn gwahaniaethu; ond y maent i gyd yn cynnwys tywod, ac amrywiol fathau о gyfferïau. Toddir y defnyddiau ynghyd mewn ffwrneisi, am ddeugain o oriau; ac yna tywelltir ef i'r ffurf a ddewisir: ond bydd wedi hyny yn mynd о dan lawer o driniaethau yn ôl fel y bydd i ateb gwahanol ddibenion. Y mае prif weithfeydd gwydr y wlad honno yn [[Newcastle-upon-Tyne]], [[Shields]], [[Stourbridge]], [[Lerpwl]], [[Ravenhead]], [[Bryste]], [[Warrington]], [[Birmingham]], [[Leeds]], [[Llundain]], [[Glasgow]], [[Leith]], [[Dulyn]], [[Corc]], a [[Belffast]].
 
Y mae cryn amser ers pan y defnyddir gwydr i'w osod mewn ffenestri, o leiaf yn ngogleddbarth a gorllewinbarth Ewrop. Yn y flwyddyn 674, daeth celfyddydwyr o wledydd tramor i wydro ffenestri Eglwys Weremouth, yn [[Durham]]; a hyd yn oed yn 1567, cyfyngwyd у dull yma o gau allan oerni o dai annedd i balasdai mwyaf urddasol [[Lloegr]]. Yn mhen canrif ar ôl hyny, yr oedd gwydro ffenestri yn beth mor anfynych yn [[yr Alban]], fel nad oedd gwydr i'w weld ond yn ffenestri ystafelloedd uchaf y palasau brenhinol. [[Cauedydd]]ion pren oedd ar ffenestri yr ystafelloedd isaf, i ollwng neu i gau yr awyr allan. Ond erbyn y 19g, nid oedd ffenestri y bythynod tlotaf yn y tir heb eu gwydro; ас y mae yn debyg nad oedd dim yn cael ei ddefnyddio yn fwy cyffredinol yn yr oes honno na gwydr; a gellir ei ystyried fel un o'r nwyddau gwerthfawrocaf yn ein meddiant.
 
== Gweler hefyd ==
* [[Diferion gwydr]]
 
{{eginyn cemeg}}
 
{{Wiciadur|{{lc:{{PAGENAME}}}}}}
 
{{Testun Y Gwyddoniadur Cymreig}}
 
[[Categori:Gwydr| ]]