Y Fro Gymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 3:
 
== Tiriogaeth y Fro Gymraeg ==
Mae tiriogaeth y Fro Gymraeg yn anodd ei diffinio'n fanwl, yn rhannol oherwydd y newidiadau mawr ym map ieithyddol Cymru dros y degawdau diwethaf. Genhedlaeth neu ddwy yn ôl buasai rhywun yn medru dweud fod bron y cyfan o orllewin Cymru, o [[Ynys Môn]] yn y gogledd i ogledd [[Sir Benfro|Penfro]] a chyffiniau [[Cwm Gwendraeth]] yn y de ac hyd at [[Dyffryn Aman]] yn y rhan ddwyreiniol o sir Gar, yn gorwedd yn y Fro Gymraeg a'i bod yn cynnwys yn ogystal rannau pur sylweddol o orllewin [[Powys]] a'r hen sir [[Clwyd]]. Ond heddiw mae tiriogaeth yr iaith fel iaith y mwyafrif wedi crebachu.
 
Serch hynny gellid dadlau fod y rhan fwyaf o dir pedair o siroedd Cymru yn ffurfio calon y Fro Gymraeg heddiw, sef [[Gwynedd]], [[Sir Gaerfyrddin]], [[Ceredigion]] ac [[Ynys Môn]], ond hyd yn oed yn y siroedd hynny ni ellir dweud fod pob tref a phentref yn gadarnle Cymraeg. Ceir ardaloedd eraill y tu allan i'r pedair sir hyn gyda chanran sylweddol o siaradwyr Cymraeg, e.e. rhannau o sir [[Castell-nedd Port Talbot]], rhannau o orllewin [[Powys]], gogledd [[Sir Benfro]], ucheldir sir [[Conwy (sir)|Conwy]] (yn enwedig [[Dyffryn Conwy]]), ucheldir a chefn gwlad [[Sir Ddinbych]], a rhannau o sir [[Abertawe (sir)|Abertawe]].