William Stukeley: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:William Stukeley attributed to Richard Collins.jpg|bawd|Portread William Stukeley a briodolir i Richard Collins (tua 1728)]]
Roedd '''y Parch. Ddr. William Stukeley''' FRS, FRCP, FSA ([[7 Tachwedd]] [[1687]] – [[3 Mawrth]] [[1765]]) yn hynafiaethydd o Sais a oedd y cyntaf i wneud astudiaeth ysgolheigaidd o hynafiaethau megis [[Côr y Cewri]] ac [[Avebury]], ac a ystyrir fel un o sylfaenwyr [[archaeoleg]] yn y maes. Roedd hefyd yn un o brif hyrwyddwyr y diddordeb newydd yn [[y Celtiaid]] yn ystod hanner cyntaf y [[18g]].
[[Delwedd:Stukelykitscoty.jpg|bawd
Ganed Stukeley yn [[Holbeach]], [[Swydd Lincoln]], yn fab i gyfreithiwr. Graddiodd yng [[Coleg Corpus Christi, Caergrawnt|Ngholeg Corpus Christi, Caergrawnt]] cyn mynd ymlaen i astudio meddygaeth. Bu'n gweithio fel meddyg mewn nifer o leoedd. Ymddangosodd ei weithiau enwocaf ar Gôr y Cewri ac Avebury yn [[1740]] a [[1743]]. Syniad Stukeley oedd fod gan ddynoliaeth un grefydd "batriarchaidd" ar y cychwyn, oedd wedi dirywio yn ddiweddarach gyda datblygiad eilun-addoliaeth. Credai fod y [[Derwydd]]on a'r Cristionogion cynnar yn esiampl o'r grefydd yma. Ysgrifennodd lawer ar y derwyddon, gan ennill y llysenw ''the Arch-Druid.'' Yn 1729 daeth yn offeiriad, a bu'n dal dwy fywiolaeth yn Swydd Lincoln ac yn ddiweddarach yn [[Llundain]] lle bu farw ar y 3ydd o Fawrth, 1765.
|