Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tomos Prys"

Ychwanegwyd 148 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
achos llys
B
(achos llys)
Roedd Tomos Prys yn fab y [[Elis Prys (Y Doctor Coch)]] o Blas Iolyn, [[Sir Ddinbych]]. Wedi marw ei dad daeth yn berchen maenor [[Ysbyty Ifan]].
 
Bu'n ymladd yn y rhyfeloedd yr [[yr Iseldiroedd]] dan [[Robert Dudley, iarll Leicester]], ac roedd yn Tilbury yn y fyddin a godwyd i wrthwynebau [[Armada Sbaen]] yn [[1588]]. Treuliodd gryn dipyn o amser ar y môr fel môr-leidr; mae "Cywydd i ddangos yr heldring a fu i ŵr pan oedd ar y môr" yn adrodd ei hanes yn prynu llong ac yn mynd i ysbeilio ar afrordir [[Sbaen]]. Am gyfnod bu'n byw ar [[Ynys Enlli]]. Treuliodd lawer o amser yn [[Llundain]]. Roedd yn hoff o ymgyfreithio, a gwariodd lawer o arian ar hynny; er enghraifft daeth ag achos llys yn erbyn [[Syr John Wynn]] o Wydir, ond collodd.
 
Priododd ddwywaith; y tro cyntaf gyda Margaret, merch William Gruffydd o [[Caernarfon|Gaernarfon]], gan gael tri o blant. Wedi ei marwolaeth hi, priododd Jane, merch Hugh Gwynn, Berth-ddu a Bodysgallen; cawsant ddeg o blant.
37,236

golygiad