Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tomos Prys"

Ychwanegwyd 274 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
llyfr
B
(llyfr)
[[Bardd]], milwr a [[môr-leidr]] Cymreig oedd '''Tomos Prys''', weithiau '''Thomas Prys''', a adwaenir yn aml fel '''Tomos Prys o Blas Iolyn''' (tua [[1564?]]? - [[23 Awst]] [[1634]]).
 
Roedd Tomos Prys yn fab i [[Elis Prys (Y Doctor Coch)]] o Blas Iolyn, [[Sir Ddinbych]]. Wedi marw ei dad daeth yn berchen maenor [[Ysbyty Ifan]].
Priododd ddwywaith; y tro cyntaf gyda Margaret, merch William Gruffydd o [[Caernarfon|Gaernarfon]], gan gael tri o blant. Wedi ei marwolaeth hi, priododd Jane, merch Hugh Gwynn, Berth-ddu a Bodysgallen; cawsant ddeg o blant.
 
Cyfansoddodd lawer o [[Cywydd|gywyddau]], a bu'n ymryson a nifer o [[Beirdd yr Uchelwyr|feirdd eraill]], yn cynnwys [[Edmwnd Prys]] a [[Siôn Phylip]]. Roedd ei gyfeillion yn cynnwys y beirdd [[Rhys Cain]], Rhys Wyn ac [[Edmwnd Prys]]. Mae nifer o'r cywyddau yn ddiddorol oherwydd eu bod yn rhoi llawer o'i hanes ef ei hun, ond nid yw beirniaid yn ystyried eu bod o werth llenyddol uchel. Mae'n defnyddio cryn dipyn o Saesneg yn rhai ohonynt.
 
==Darllen pellach==
Erys gwaith Tomos Prys heb ei olygu. Ceir ei hanes yn:
*William Rowland, ''Tomos Prys'' (Caerdydd, 1964). Cyfres ddwyieithog Gŵyl Ddewi.
 
{{Beirdd yr Uchelwyr}}