Y Fro Gymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
bathu'r term am y tro cyntaf
Llinell 3:
 
== Tiriogaeth y Fro Gymraeg ==
Mae tiriogaeth y Fro Gymraeg yn anodd ei diffinio'n fanwl, yn rhannol oherwydd y newidiadau mawr ym map ieithyddol Cymru dros y degawdau diwethaf. Genhedlaeth neu ddwy yn ôl buasai rhywun yn medru dweud fod bron y cyfan o orllewin Cymru, o [[Ynys Môn]] yn y gogledd i ogledd [[Sir Benfro|Penfro]] a chyffiniau [[Cwm Gwendraeth]] yn y de ac hyd at [[Dyffryn Aman]] yn y rhan ddwyreiniol o sir Gar, yn gorwedd yn y Fro Gymraeg a'i bod yn cynnwys yn ogystal rannau pur sylweddol o orllewin [[Powys]] a'r hen sir [[Clwyd]]. Ond heddiw mae tiriogaeth yr iaith fel iaith y mwyafrif wedi crebachu. Oherwydd y newid syfrdanol hwn, cyhoeddodd [[Owain Owain]] map o'r [[Fro Gymraeg]] yn Nhafod y Ddraig, a hynny yn Ionawr 1964, ble bathwyd fel term gwleidyddol am y tro cyntaf.
 
Serch hynny gellid dadlau fod y rhan fwyaf o dir pedair o siroedd Cymru yn ffurfio calon y Fro Gymraeg heddiw, sef [[Gwynedd]], [[Sir Gaerfyrddin]], [[Ceredigion]] ac [[Ynys Môn]], ond hyd yn oed yn y siroedd hynny ni ellir dweud fod pob tref a phentref yn gadarnle Cymraeg. Ceir ardaloedd eraill y tu allan i'r pedair sir hyn gyda chanran sylweddol o siaradwyr Cymraeg, e.e. rhannau o sir [[Castell-nedd Port Talbot]], rhannau o orllewin [[Powys]], gogledd [[Sir Benfro]], ucheldir sir [[Conwy (sir)|Conwy]] (yn enwedig [[Dyffryn Conwy]]), ucheldir a chefn gwlad [[Sir Ddinbych]], a rhannau o sir [[Abertawe (sir)|Abertawe]].
Llinell 20:
== Diffinio'r Fro Gymraeg yn 1964 ==
 
Crewyd y termDiffiniwyd 'Y Fro Gymraeg' gan [[Owain Owain]] yn Rhifyn 4 o [[Dafod y Ddraig]] yn Ionawr [[1964]]. Mewn ysgrif ("ONI ENILLIR Y FRO GYMRAEG. . . . ") yn [[Y Cymro]], [[12 Tachwedd]], [[1964]], rhoddir ffurf ar y syniad o ganolbwyntio'r frwydr ar yr ardaloedd Cymraeg. Dywedodd Owain yn ei erthygl y frawddeg enwog: 'Enillwn y Fro Gymraeg, ac fe enillir Cymru, ac oni enillir y Fro Gymraeg, nid Cymru a enillir.'
 
Dilynwyd ef gan yr Athro J. R. Jones ac yna [[Emyr Llewelyn]] a ffurfiodd [[Mudiad Adfer]] gyda'r nôd o warchod Y Fro Gymraeg.