Cymuned (Cymru): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

rhaniad o dir a reolir gan lywodraeth leol yng Nghymru
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: '''Cymuned''' yw'r uned leiaf o lywodraeth leol yng Nghymru. Hyd 1974, rhennid Cymry yn blwyfi sifil ar bwrpas llywodraeth leol. Roedd yn rhain wedi eu seilio yn fras a...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 08:42, 21 Chwefror 2008

Cymuned yw'r uned leiaf o lywodraeth leol yng Nghymru. Hyd 1974, rhennid Cymry yn blwyfi sifil ar bwrpas llywodraeth leol. Roedd yn rhain wedi eu seilio yn fras ar y plwyfi eglwysig. Dan )Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972, diddymwyd y plwyfi sifil yng Nghymru (adran 20 (6)), ac yn eu lle, rhannwyd y wlad yn 849 o gymunedau (adran 27 o'r Ddeddf). Amrywia'r cymunedau o rannau o ddinasoedd gyda phoblogaeth sylweddol hyd at o leiaf un gymuned sydd heb boblogaeth barhaol o gwbl.

Gall pob cymuned gael Cyngor Cymuned. Gall Cyngor Cymuned ei alw ei hun yn Gyngor Trefol neu'n Gyngor Dinesig lle mae hyn yn addas; mae dwy gymuned yn ddinasoedd ar hyn o bryd: Tyddewi a Bangor. Rhennir dinasoedd mwy, megis Caerdydd, yn nifer o gymunedau. Fel rheol, gelwir arweinydd Cyngor Dinesig ney Gyngor Trefol yn Faer.

Nid oes rhaid i gymuned fod a Chyngor Cymuned; mae poblogaeth rhai cymunedau yn rhy fach i gynnal cyngor.