Cymuned (Cymru): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Cymuned''' yw'r uned leiaf o lywodraeth leol yng Nghymru. Hyd [[1974]], rhennid Cymry yn [[Plwyf|blwyfi sifil]] ar bwrpas llywodraeth leol. Roedd yn rhain wedi eu seilio yn fras ar y plwyfi eglwysig. Dan [[Deddf Llywodraeth Leol, 1972|Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972]], diddymwyd y plwyfi sifil yng Nghymru (adran 20 (6)), ac yn eu lle, rhannwyd y wlad yn 849 o gymunedau (adran 27 o'r Ddeddf). Amrywia'r cymunedau o rannau o ddinasoedd gyda phoblogaeth sylweddol hyd at o leiaf un gymuned sydd heb boblogaeth barhaol o gwbl.
 
Gall pob cymuned gael [[Cyngor Cymuned]]. Gall Cyngor Cymuned ei alw ei hun yn Gyngor Trefol neu'n Gyngor Dinesig lle mae hyn yn addas; mae dwy gymuned yn ddinasoedd ar hyn o bryd: [[Tyddewi]] a [[Bangor]]. Rhennir dinasoedd mwy, megis [[Caerdydd]], yn nifer o gymunedau. Fel rheol, gelwir arweinydd Cyngor Dinesig neyneu Gyngor Trefol yn [[Maer|Faer]].
 
Nid oes rhaid i gymuned fod a Chyngor Cymuned; mae poblogaeth rhai cymunedau yn rhy fach i gynnal cyngor.