Tony Bianchi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Awdur, llenor a golygydd oedd '''Tony Bianchi''' ([[5 Ebrill]] [[1952]] – [[2 Gorffennaf]] [[2017]])<ref>{{dyf newyddion|url=http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/268766-marwr-prif-lenor-tony-bianchi|teitl=Marw’r Prif Lenor Tony Bianchi|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=2 Gorffennaf 2017}}</ref> a ddaeth yn Brif Lenor yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015|Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2015]].
 
Ganed Bianchi yn [[North Shields]], [[Northumberland]], addysgwyd ef yno ac yng [[Coleg Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan|Ngholeg Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan]] lle dysgodd yr iaith [[Gymraeg]]. Bu'n byw yn [[Llanbedr Pont Steffan]], [[Cei Conna]] ac [[Aberystwyth]] am gyfnod cyn symud i [[Caerdydd|Gaerdydd]]. Roedd yn bennaeth yr adran Lenyddiaeth yn [[Cyngor Celfyddydau Cymru|Nghyngor Celfyddydau Cymru]] hyd 2002. Cafodd ei lyfr ''Esgyrn Bach'' ei restru ar restr-hir [[Llyfr y Flwyddyn]] [[2007]]. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf yn Saesneg, ''Bumping'' (Alcemi) yn Mai 2010 a fe'i dewiswyd i restr-hir Gwobr Portico.
 
==Bywyd personol==