[[Delwedd:Eileen-Beasley-gyda-Elidyr-Delyth.jpeg|bawd|Llun eiconig o Eileen Beasley o'r cyfnod, a'i mab Elidyr a'i merch Delyth]]
Ymgyrchydd [[hawliau iaith]] oedd '''Eileen Beasley''' (m.[[4 Ebrill]] [[1921]] – [[12 Awst]] [[2012]]).<ref>{{dyf newyddion|url=http://www.independent.co.uk/news/obituaries/eileen-beasley-welsh-language-campaigner-8190320.html|teitl=Eileen Beasley: Welsh language campaigner|cyhoeddwr=independent.co.uk|iaith=en|dyddiad=28 Medi 2012|dyddiadcyrchu=4 Gorffennaf 2017}}</ref> Gyda'i gŵr Trefor Beasley mae hi'n enwog am eu hymgyrch i fynnu papur treth [[Cymraeg]] (neu ddwyieithog) gan Gyngor Dosbarth Gwledig [[Llanelli]] yn ystod [[1950au|pumdegau'r ugeinfed ganrif]]. Yr adeg honno nid oedd statws i'r Gymraeg o gwbl: dim ffurflenni swyddogol gan gyrff cyhoeddus nac arwyddion ffyrdd dwyieithog. Mae Eileen Beasley wedi ei galw yn "fam gweithredu uniongyrchol" yng Nghymru ac yn "[[Rosa Parks]] Cymru".{{angen ffynhonnell}} Ysgrifennodd Angharad Tomos lyfr am ymgyrch Eileen sef 'Darn bach o bapur'<ref>[http://welshrepublic.com/?page_id=471&lang=cy Eileen Beasley - Rosa Parks Cymru] ar wefan Gweriniaeth Cymru</ref>