Gwenwynwyn ab Owain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Gwenwynwyn ab Owain Cyfeiliog''' (bu farw c.[[1216]]) yn dywysgog [[Powys Wenwynwyn]] o [[1195]] ymlaen. Oddi wrtho ef y cymerodd y deyrnas hon, a grewyd pan rannwyd [[teyrnas Powys]] yn ddwy, ei henw.
 
Daeth Gwenwynwyn yn rheolwr Powys Wenwynwyn ar farwolaeth ei dad, [[Owain Cyfeiliog]]. Ym mlynyddoedd olaf y [[12fed ganrif]] ceisiodd Gwenwynwyn ei sefydlu ei hun fel arweinydd y tywysogion Cymreig, a gosododd warchae ar [[Castell Paen|Gastell PaenPaun]] yn [[1198]], ond gorchfygwyd ef gan fyddin [[Normaniaid|Normanaidd]] dan Geoffrey Fitz Peter.
 
Yn fuan daeth Gwenwynwyn i wrthdrawiad a [[Llywelyn Fawr]] oedd wedi dod yn dywysog [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]]. Bwriadodd Llywelyn ymosod ar Bowys Wenwynwyn yn [[1202]], ond gwnaed heddwch rhyngddynt gan yr eglwys. Ar y dechrau roedd y brenin [[John, brenin Lloegr|John o Loegr]] yn cefnogi Gwenwynwyn, ond yn ddiweddarach gwnaeth Llywelyn gytundeb a John a phriodi ei ferch [[Siwan]].