Argoed Llwyfain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
:''Am yenghreifftiau gerdderaill gano'r [[T. Gwynn Jones]]enw gweler [[Argoed]].''
Safle brwydr dyngedfennol yn yr [[Hen Ogledd]] oedd '''Argoed Llwyfain''' (hefyd '''Argoed Llwyfein'''). Ceir hanes y frwydr mewn [[awdl]] o waith [[Taliesin]] a gedwir yn ''[[Llyfr Taliesin]]''. Mae ei union leoliad yn ansicr, ond cynigir safle yn nyffryn [[Afon Eden (Cumbria)|afon Eden]], [[Cumbria]]. Ymddengys fod yr enw ''Llwyfain'' yn gysylltiedig ag enw yr ardal [[Llwyfenydd]], yn nhiriogaeth Rheged.<ref>Ifor Williams (gol.), ''Canu Taliesin'' (Caerdydd, 1960), rhagymadrodd.</ref>
 
Yn ôl yr awdl 'Gweith Argoet Llwyfein' ("Brwydr Argoed Llwyfain") gan Daliesin, ymladdwyd y frwydr enwog ryw 'bore dydd Sadwrn' rhwng lluoedd gwŷr [[Rheged]], dan arweiniad [[Urien Rheged]] a'i fab [[Owain fab Urien|Owain]], a llu o elynion ([[Eingl-Sacsoniaid]] o [[Brynaich|Frynaich]] efallai) dan arweiniad [[Fflamddwyn]]. Roedd byddin Fflamddwyn wedi'i threfnu yn bedair adran. Parodd am ddiwrnod cyfan ac enillodd y [[Brythoniaid]] fuddugoliaeth ysgubol. Gadawyd nifer o gyrff yr ymosodwyr ar faes y gad yn fwyd i'r brain:
 
:A rhag gwaith Argoed Llwyfain
:Bu llawer celain;