Rhedynen ungoes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap)
Llinell 24:
Nododd Lewis Morris yn ei adroddiad dyddiedig 1748 [[Lewis Morris]] mewn adran neilltuedig i ardal Dulas, Môn, bod gweithfeydd llosgi rhedyn ''upon all this Coast''. Meddai: ''...they make Fern-ashes, which is sold to Soapboilers, Glass-houses, Smelting-houses, Refiners, &c.''<ref name=Budenberg (1987)>Budenberg, GF (ed. 1987) ''Lewis Morris: Plans in St George's Channel -1748'' (Lewis Morris Productions)</ref>.
 
Ysgrifenwyd y canlynol, am y defnydd lleol hwn a wnaed o redyn, gan Rolant Williams, brodor o ogledd-orllewin Môn. Fe'i hysgrifennwyd ar gyfer prosiect Llên y Llysiau (Cymdeithas Edward Llwyd) yn y 1990au a dyma ei hatgyfodi yma:
 
{{Dyfyniad|Yn y Ilyfr The Life and Works of Lewis Morris 1701 — 1765, gan Hugh Owen, ceir disgrifiad pur fanwl o'r diwydiant Iludw rhedyn ''Pteridium aquilinum'' ym Mon. Pwrpas y gwaith oedd cynhyrchu potash, i'w werthu yn fwyaf arbennig i'r diwydiannau gwneud sebon a gwydr ac hefyd i'r todd-dai. Noda Lewis Morris fod diwydiant o'r fath yng nghyffiniau Dulas (Ynys Môn) ac yn wir dywed fod cynhyrchu Iludw rhedyn yn gyffredin lawn ar hyd Ilawer o'r glannau cyfagos. Yn oes y Morrisiaid yr oedd Dulas yn borthladd prysur o achos y fasnach mewn ymenyn, ceirch, penwaig, glo a chalch ac hefyd byddai'r Iludw rhedyn yn cael ei allforio oddi yno.