Erbistog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Pentref a [[Cymuned (llywodraeth leol)|chymuned]] ym [[Wrecsam (sir)|mwrdeisdref sirol Wrecsam]] yw '''Erbistog''' ([[Saesneg]]: ''Erbistock''). Saif bron ar y ffîn rhwng Cymru a [[Lloegr]], ar lan orllewinol [[Afon Dyfrdwy]], i'r de o dref [[Wrecsam]] ac i'r dwyrain o [[Rhiwabon]].
 
Arferai'r safle yma fod yn un o'r ychydig leoedd lle gellis croesi'r rhan yma o Afon Dyfrdwy yn ddiogel ar fferi. Dywedir fod y Boat Inn, sy'n dyddio o'r [[18fed ganrif]], ar safle'r hen fferi. Adeiladwyd yr eglwys, a gysegrwyd i Sant Bar, yn [[1861]]. Crybwyllir eglwys gynharach, yn dyddio o'r [[13eg ganrif]], oedd wedi ei chysegru i Sant Erbin. Dywedir fod neuadd y pentref ar safle hen ysgol a sefydlwyd gan y merthyr Catholig [[Rhisiart Gwyn]]. Mae poblogaeth y gymuned yn 409.