The Four Ancient Books of Wales: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
chwaneg, categori
Rbt Wms
Llinell 1:
'''''The Four Ancient Books of Wales''''' oedd teitl llyfr a gyhoeddwyd gan yr hanesydd a hynafiaethydd [[Alban]]aidd [[William Forbes Skene]] yn [[1868]], mewn dwy gyfrol.
 
Mae'r llyfr yn cynnwys testunau a chyfeithiadau a dynnwyd o bedair [[llawysgrif]] [[Cymraeg Canol]]: [[Llyfr Du Caerfyrddin]], [[Llyfr Taliesin]], [[Llyfr Aneirin]] a [[Llyfr Coch Hergest]]. Cynorthwywyd Skene gan y Cymro [[Daniel Silvan Evans]], ac mae'n debyg mai ei waith ef yw'r rhan fwyaf o'r cyfieithiadau. Cyfieithwyd testun Llyfr Taliesin gan yr hynafiaethydd [[Robert Williams (hynafiaethydd)|Robert Williams]].
 
Yn ôl safonau heddiw, mae llawer o wallau yn y testun, ac oherwydd hynny yn y cyfieithiadau. Er hynny, roedd llyfr Skene yn gam pwysig ymlaen yn hanes astudiaethau Cymraeg Canol a [[llenyddiaeth Gymraeg]]. Ceisiodd rhoi'r cerddi a'r chwedlau yn eu cyd-destun hanesyddol ac ieithyddol a gwnaeth ymgais i ddosbarthu'r cerddi yn rhai hanesyddol a rhai mytholegol.