Hanes Ynys Manaw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Castle Rushen.jpg|bawd|250px|Castell Rushen yn [[Castletown]]. Adeiladwyd y castell gan Magnus III, brenin Norwy.]]
 
Mae '''hanes Ynys Manaw''' yn hanes dylanwadau o'r gwledydd o'i chwmpas, yn enwedig [[yr Alban]] a [[Lloegr]], ac hefyd ddylanwadau Llychlynnaidd cryf. Daeth [[Ynys Manaw]] yn ynys tua 8500 o flynyddoedd yn ôl wrth i lefel y môr godi. Hyd hynny roedd cysylltiasd tir gydag ardal [[Cumbria]]. Ychydig o gofnodion hanesyddol sydd ar gael o'r cyfnodau cynnar pan oedd ymddengys bod poblogaeth yn siarad iaith Frythonig yn byw yno. Cofnodir i [[Edwin, brenin Northumbria]] ymosod ar yr ynys yn [[616]]. O gwmpas y [[10fed ganrif]] ymsefydlodd gwladychwyr o [[Iwerddon]] a datblygodd [[Manaweg]], sy'n iaith Oideleg tebyg i [[Gwyddeleg|Wyddeleg]]. Yn ôl traddodiad daeth [[Sant Maughold]] (Maccul) o Iwerddon a Christionogaeth i'r ynys. Credir fod enw'r ynys yn dod o enw duw môr [[y Celtiaid]], [[Manannán mac Lir]].
 
Yn ôl y traddodiad barddol, daeth [[Merfyn Frych]], a ddaeth yn frenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] tua [[825]], o "Fanaw", ond mae'n ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Ynys Manaw neu at hen deyrnas [[Manaw Gododdin]] (yn Yr Alban heddiw). Ar groes ar Ynys Manaw mae arysgrif ''Crux Guriat''. Credir fod y groes yn dyddio o'r wythfed neu'r nawfed ganrif, felly mae'n bosibl mai tad Merfyn oedd y "Guriat" yma.