Cadwallon ap Cadfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Cadwallon ap Cadfan''' (bu farw [[633]]) yn frenin [[teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] o tua 625 hyd ei farw.
 
Etifeddodd Cadwallon deyrnas Gwynedd ar farwolaeth ei dad, [[Cadfan ap Iago]]. Ymosodwyd ar Wynedd gan [[Edwin, brenin Northumbria|Edwin]] o [[Deira]] ([[Northumbria]] heddiw), a gyrhaeddodd cyn belled ag [[Ynys Môn]] a gorfodi Cadwallon i ffoi i [[Ynys Lannog]] ac yna i [[Iwerddon]]. Yn ôl yr ''[[Annales Cambriae]]'' digwyddodd hyn yn [[629]]. Yn ôl [[Sieffre o Fynwy]] yr oedd Edwin cyn hyn wedi cael lloches gan dad Cadwallon, Cadfan, ac mae'r [[Trioedd Cymreig]] yn disgrifio Edwin fel "un o dri gormeswr ar Fôn a fagwyd ar yr ynys".
 
Gwnaeth Cadwallon gytundeb a [[Penda]], brenin [[Mercia]], ac ymosododd y ddau ar Northumbria. Lladdwyd Edwin mewn brwydr ym Meigen ("Heathfield" yn [[Saesneg]], sef Hatfield Chase yn Swydd Efrog yn ôl pob tebyg) yn [[632]]. Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry a Saeson ymuno mewn cynghrair fel hyn.