Breuddwyd Macsen Wledig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cefndir: tacluso ac ehangu
Llinell 12:
 
==Cefndir==
Credir gan rai ysgolheigion bod yr Elen wreiddiol yn cynrychioli [[sofraniaeth]] [[Ynys Brydain]] a'i bod hefyd yn [[duwies|dduwies]] [[Celtiaid|Geltaidd]] yn wreiddiol. Cymysga'r chwedl ei hun hanes dwy ferch wahanol, sef [[Elen Luyddog]] ac Elen ferch Eudaf. Credir mai mam yr ymerawdwr [[Custennin Fawr]] (306-337) yw sail cymeriad Elen Luyddog. Diau bod elfennau o hanes [[Elen o GaerdroaiGaerdroia]] wedi lliwio dychymyg y [[cyfarwydd]] (chwedleuwr) o Gymro hefyd.
 
Roedd [[Macsen Wledig]] (Magnus Maximus) yn filwr Rhufeinig o [[Sbaen]] a ddaeth yn ymerawdwr Rhufain ar ôl i'w filwyr ei hun ei gyhoeddi yn ymerawdwr ym Mhrydain yn y flwyddyn [[383]]. Teyrnasodd am bum mlynedd yn Rhufain cyn gael ei ladd gan [[Theodosius]]. Ceir peth o'i hanes gan [[Gildas]] a [[Nennius]] gyda'r pwyslais ar sut yr amddifadodd yr ynys o filwyr. Ychwanega Nennius y traddodiad am filwyr Cymreig Macsen yn ymsefydlu yn [[Llydaw]]. DaethYn teuluoeddyr Oesoedd Canol daeth rhai o deuluoedd brenhinol Cymru i uniaethu â Macsen a hawlio bod yn ddisgynyddion iddyntiddo ac Elen (ac felly'n etifeddu awdurdod y Rhufain Gristnogol a'r hawl i reoli Ynys Brydain, mewn cyferbyniaeth â'r [[Eingl-Sacsoniaid]] "paganaidd").
 
Ceir rhan o hanes Macsen yng ngwaith [[Sieffre o Fynwy]] hefyd, ond ceir gwahaniaethau mawr rhwng y fersiwn yn yr ''[[Historia Regum Britanniae]]'' (''[[Brut y Brenhinedd]]'') a ''Breuddwyd Macsen''. Prawf yw hynny, fe ymddengys, fod y ddwy chwedl yn seiliedig ar draddodiadau hynafol am Facsen yng Nghymru a drysorwyd gan y Cymry dros y canrifoedd.
 
Mae'r breuddwyd yn fotif llenyddol poblogaid a geir mewn sawl diwylliant, ond roedd yn arbennig o boblogaidd gan y Celtiaid. Yng Nghymru ceir ''[[Breuddwyd Rhonabwy]]'' er enghraifft ac yn Iwerddon ceir dosbarth arbennig o chwedlau a elwir yn ''aisling'', e.e. ''[[Aislinge Oenguso]]'' ('Breuddwyd Angus').
 
==Llyfryddiaeth==