Breuddwyd Macsen Wledig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cefndir: tacluso ac ehangu
Llinell 5:
Ymrennir y chwedl yn ddwy ran. Yn y rhan gyntaf ceir hanes breuddwyd Macsen a'r hyn a deilliodd ohono ac yn yr ail ran, sy'n llai boddhaol o safbwynt llenyddol, ceir sawl traddodiad am Facsen, Elen, a'r [[Brythoniaid]], wedi'u plethu ynghyd.
 
Egyr y chwedl gyda Macsen Wledig, [[Ymerawdwr Rhufain]], yn mynd i hela mewn dyffryn ger [[Rhufain]] er mwyn diddanu "deuddeg brenin ar ugain o frenhinoedd coronog" sy'n ddeiliaid iddo. Ond does ganddo ddim llawer o awydd i hela, ac mae'n ymneilltuo i lecyn tawel i orffwys am ganol dydd. Gesyd ei osgordd eu tariannau drosto i'w cysgodi ac mae'n syrthio i gysgu. Yn ei freuddwyd mae'n cael gweledigaeth ryfedd. Mae'n teithio dros yr [[Alpau]], trwy [[Gâl]] a thros y [[Môr Udd]] i [[Ynys Brydain]]. Yna mae'n cerdded i ogledd-orllewin yr ynys a gweld caer ysblennydd wrth aber gyda mynyddoedd gwyllt a choed y tu ôl iddi ac ynys ffrwythlon gyferbyn. Eiff i mewn i neuadd y gaer a gweld gweision yn chwarae [[gwyddbwyll]] a'r forwyn decaf erioed yn eistedd ar orsedd orwych. Mae hi'n codi ac yn dod ato ac mae'n rhoi ei freichiau am ei gwddw. Wrth iddyntiddo eistedd gyda hi ar yr orsedd ac ymserchu ynddi, mae twrw'tr tariannau'n ymysgwyd yn y gwynt yn ei ddeffro ac mae'r weledigaeth yn diflannu.
 
Ni all yr ymerawdwr fyw heb gael gwybod pwy oedd y forwyn a lle y trigai. Mae'n anfon negeseuwyr allan i bedair ban byd ond dychwelant heb newydd amdani. Caent eu hanfon yr ail dro. Croesant yr Alpau eto a dilyn cyfarwyddyd Macsen i gyrraedd y gaer a gofyn i'r forwyn briodi Macsen. Mae'r forwyn yn gwrthod oni bai'r ymerawdwr ei hun yn dod i'w cheisio. A dyna a wna Macsen a'i wŷr. Glaniant ym Mhrydain a goresgyn yr ynys gan yrru [[Beli fab Manogan]] a'i wŷr ar ffo. [[Elen Luyddog|Elen]] yw'r ferch ac mae hi'n byw gyda'i thad [[Eudaf]] a'i frodyr [[Cynan Meiriadog|Cynan]] ac Adeon yng [[Segontiwm|Nghaer Seint]] yn [[Arfon]]. Y noson gyntaf honno mae Macsen ac Elen yn cysgu a'i gilydd.