Historia Regum Britanniae: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 12:
Mae'r ail adran yn rhestr ddigon ddiflas, foel, ac anysbrydoledig ar y cyfan o frenhinoedd ffug y Brydain Geltaidd, ond mae'n cynnwys hanesion difyr, wedi eu codi o draddodiad brodorol yn ôl pob tebyg, e.e. am y brenin [[Llŷr]] yn rhannu ei deyrnas rhwng ei tair merch (hanes a ddefnyddwyd gan [[William Shakespeare|Shakespeare]] yn ei ddrama ''[[King Lear]]''), a [[Dyfnwal Moelmud]] a'i feibion [[Beli fab Brân|Belinus]] a [[Brennus|Brennius]], sy'n ymladd rhyfel cartref cyn mynd yn eu blaen i ymosod ar ddinas [[Rhufain]] (seiliedig ar hanes [[Brennus]] yn cipio Rhufain yn 390 CC).
Daw'r llyfr yn nes at hanes go iawn wrth disgrifio glaniad [[Iwl Cesar]] ym Mhrydain a gwrthsafiad [[Caswallon|Cassibelanus]], a hefyd hanes [[Cynfelin]] ([[Cunobelinus]], sail ''[[Cymbeline]]'' Shakespeare).
Ar ôl i'r [[Rhufeiniaid]] ymadael, daw [[Gwrtheyrn|Vortigern]] ([[Gwrtheyrn]]) i rym. Mae'n gwahodd yr [[Eingl-Sacsoniaid]] dan [[Hengist]] a [[Hors]] i'w gynorthwyo yn erbyn y [[Pictiaid]] ac eraill fel milwyr cyflog, ond codant yn ei erbyn gan ei dwyllo a lladd arweinwyr y [[Brythoniaid]] yn nos [[Brad y Cyllyll Hirion]], diolch i ystryw [[Ronwen]]. Dielir ar y Saeson gan [[Eidol]] a cheir ysbaid o atgyfnerthi dan [[Emrys|Aurelius Ambrosius]] a'i frawd [[Uthr Pendragon]], gyda chymorth y dewin [[Myrddin]]. Mae mab Uthr [[y Brenin Arthur]] yn curo'r Saeson mewn cyfres o frwydrau ac yn sefydlu [[ymerodraeth]] dros y rhan fwyaf o orllewin a gogledd Ewrop. Dyma'r Oes Aur. Mae'n para hyd pan eilw'r ymerawdwr [[Lucius Tiberius]] i Brydain dalu teyrnged i Rufain unwaith eto. Mae Arthur yn gorchyfug Lucius yng [[Gâl|Ngâl]], ond yn y cyfamser mae ei nai twyllodrus ac uchelgeisiol [[Medrawd]] yn cipio gorsedd yr Ynys Wen. Dychwela Arthur a lladd Medrawd ym mrwydr [[Camlan]], ond fe'i clwyfir yn angeuol ei hun ac mae'n cael ei gludo i [[Ynys Afallach]] ac yn trosgwlyddo'r deyrnas i'w nai [[Cystennin]].
Gyda Arhur yn farw dychwela'r Saeson ond yn fwy nerthol nag erioed. Mae'r Brythoniaid yn parhau i'w hwrthwynebu ond er gwaethaf ymdrechion brenhinoedd dewr maent yn colli tir. Mae'r hanes yn gorffen gyda marw [[Cadwaladr]], a'r Saeson yn hawlio penarglwyddiaeth Prydain.
|