Gwrtheyrn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Brenin Brythonig yng nghanol y 5ed ganrif oedd '''Gwrtheyrn''' yn ôl traddodiad. Dywedir mai ef fu'n gyfrifol am wahodd y Sacsoniaid i Ynys Prydain. Nid ...
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Brenin [[Brythoniaid|Brythonig]] yng nghanol y [[5ed ganrif]] oedd '''Gwrtheyrn''' yn ôl traddodiad. Dywedir mai ef fu'n gyfrifol am wahodd y [[Sacsoniaid]] i [[Ynys Prydain]]. Nid oes sicrwydd a yw'n gymeriad hanesyddol ai peidio.
 
Ceir sôn yng ngwaith [[Gildas]], ''[[De excidioExcidio BritaniaeBritanniae]]'' ([[6ed ganrif]]) i gynghorwyr y Brythoniaid, "ynghyda'u teyrn balch" (''cum superbo tyranno'') wahodd y Sacsoniaid i'r ynys, ond nid yw Gildas yn rhoi enw'r teyrn hwnnw. Mae [[Beda]] yn ei ''Hanes Eglwysig'' yn yr [[8fed ganrif]] yn rhoi enw'r brenin yn y stori fel ''Uurtigern''.
 
Yn yr ''[[Historia Brittonum]]'', a briodolir i [[Nennius]], ceir fersiwn lawnach o'r stori. Dywed fod y brenin Guorthigirnus wedi croesawu arweinwyr y Saesnon, [[Hengist]] a [[Hors]], ac wedi rhoi ynys Tanet yn rhodd iddynt. Dywedir mai er mwyn cael merch Hengist yn wraig y rhoes diroedd iddynt. Dywedir iddo ffoi i [[Eryri]] pan ymgryfhaodd y Sacsoniaid. Yno ceisiodd godi caer ar safle [[Dinas Emrys]]. Roedd ganddo fab o'r enw [[Gwerthefyr]].