Gwrtheyrn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) interwici |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) ehangu |
||
Llinell 3:
Ceir sôn yng ngwaith [[Gildas]], ''[[De Excidio Britanniae]]'' ([[6ed ganrif]]) i gynghorwyr y Brythoniaid, "ynghyda'u teyrn balch" (''cum superbo tyranno'') wahodd y Sacsoniaid i'r ynys, ond nid yw Gildas yn rhoi enw'r teyrn hwnnw. Mae [[Beda]] yn ei ''Hanes Eglwysig'' yn yr [[8fed ganrif]] yn rhoi enw'r brenin yn y stori fel ''Uurtigern''.
Yn yr ''[[Historia Brittonum]]'', a briodolir i [[Nennius]], ceir fersiwn lawnach o'r stori. Dywed fod y brenin Guorthigirnus wedi croesawu arweinwyr y Saesnon, [[Hengist]] a [[Hors]], ac wedi rhoi ynys Tanet yn rhodd iddynt. Dywedir mai er mwyn cael merch Hengist, [[Alys Rhonwen]] (neu Ronwen), yn wraig y rhoes diroedd iddynt. Yn ôl Nennius gwahoddodd Hengist Wrtheyrn a'i bendefigion i wledd yn ei lys. Ond ystryw oedd y cyfan i lofruddio'r Brythoniaid er mwyn meddianu [[Ynys Prydain]]. Cytunodd Gwrtheyrn, dall yn ei gariad at Ronwen, ond ar yr amod fod pawb yn ddiarfog yn y wledd. Ar air penodedig gan Hengist (''Nemet eour Saxes!'' "Gafaelwch yn eich cyllyll!"), tynnodd y Saeson, oedd yn eistedd bob yn ail â'r Brythoniaid wrth y byrddau, eu cyllyll hirion a lladd tri chant o'r Brythoniaid. Dim ond un pendefig a lwyddodd i ddianc o'r gyflafan, sef [[Eidol]], Iarll [[Caerloyw]]. Ni fu dewis gan Wrtheyrn wedyn ond ildio de Prydain i gyd i'r Sacsoniaid a ffoi a gweddill ei bobl i [[Cymru|Gymru]].
Dywedir iddo ffoi i [[Eryri]]
Newidiwyd yr hanes gryn dipyn gan [[Sieffre o Fynwy]] yn ei ''[[Historia Regum Britanniae]]'', lle rhoir yn enw [[Myrddin]] i'r bachgen yn y chwedl am y ddwy ddraig.
|