Mawn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
maint
Llinell 1:
[[Image:Peat-Stack in Ness, Outer Hebrides, Scotland.jpg|bawd|250px|Tomen o fawn wedi ei dorri yn Ness ar Ynys [[Leòdhas]] ar [[Ynysoedd Allanol Heledd]].]]
 
Ffurfir '''mawn''' o weddillion planhigion dan amodau arbennig. Lle ceir [[cors]] ar dir asidig, y math mwyaf cyffredin ar gors yng Nghymru, mae mawn yn ffurfio. Ffurfir y mawn, gan fod diffyg [[ocsigen]] yn arafu pydriad y defnyddiau planhigol. Y planhigion sy'n cyfrannu fwyaf at ffurfio mawn yn [[Ewrop]] yw [[mwsogl]] ''Sphagnum''.
 
Gellir cael mewn ar yr ucheldiroedd ac mewn rhai corsydd ar yr iseldiroedd. Mewn rhai corsydd ar dir isel, bydd ymgasgliad y mawn yn codi arwyneb y gors uwchben y tir o'i chwmpas i ffurfio llun cromen. Defnyddir y term cyforgors am y rhain; esiamplau yw [[Cors Fochno]] a [[Cors Caron|Chors Caron]].
 
Ceir mawn ledled y byd lle mae'r amodau yn ffarfriol iddo gael ei ffurfio. Mae mawnogydd yn gorchuddio tua 3% o arwynebedd y ddaear, 3,850,000 hyd 4,100,000 km². Gellir ei ddefnyddio fel tanwydd; er enghraifft mae torri mawn ar gyfer tanwydd yn bur gyffredin yng ngorllewin [[Iwerddon]] ac ar [[Ynysoedd Allanol Heledd]] yn [[yr Alban]]. Ar un adeg roedd hyn yn gyffredin yng Nghymru hefyd.
 
Gellir hefyd ddefnyddio mawn at bwrpasau eraill, yn arbennig ar gyfer cynhyrchu compost ar gyfer garddio. Gan fod llawer o'r corsydd lle ceir mawn yn bwysig ar gyfer bywyd gwyllt, mae pryder fod torri mawn ar raddfa fawr yn medru difrodi cynefinoedd.