Brwydr Camlan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
llun
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Morfran etc
Llinell 13:
Mae llawer o drafod wedi bod ynghylch lleoliad y frwydr, gyda'r awgrymiadau yn cynnwys [[Camelford]] yng [[Cernyw|Nghernyw]], [[Queen Camel]] yng [[Gwlad yr Haf|Ngwlad yr Haf]], sy'n agos i fryngaer [[South Cadbury]] a chaer Rufeinig ''Camboglanna'', efallai [[Birdoswald]] neu [[Castlesteads]]. Ceir Afon Camlan yn [[Eifionydd]].
 
Ychydig o'r milwyr a ymladdodd yn y frwydr a ddihangodd yn fyw yn ôl y chwedlau, ond mae'r fersiynau o bwy yn union a oroesodd y frwydr yn amrywio. Ymhlith y rhai a enwir mae'r seintiau [[Derfel Gadarn]] a [[Pedrog]], [[Morfran]] mab [[Tegid Foel]] a [[Ceridwen|Cheridwen]], a ddihangodd am ei fod mor hyll, a Sandde Bryd Angel, a ddihangodd am ei fod mor hardd fel bod pawn yn credu nad meidrolyn ydoedd.