Brwydr Camlan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TYP
Camlan arall
Llinell 13:
Cyfeirir at Frwydr Camlan mewn pump o [[Trioedd Ynys Prydain|Drioedd Ynys Prydain]]. Yn nhriawd 30 (trefn golygiad [[Rachel Bromwich]]) disgrifir gosgordd [[Alan Fyrgan]] fel un o 'Dri Anniwair ('anffyddlon') Deulu Ynys Prydain' am iddynt ei adael i ymladd ym Mrwydr Camlan gyda dim ond ei weision. Cyfeirir at [[Medrawd|Fedrawd]] fel un o'r 'Trywyr Gwarth' mewn triawd hir (51) sy'n rhoi hanes Camlan. Mae triawd arall (53) yn cofnodi [[Gwenhwyfach]] yn taro [[Gwenhwyfar]] fel un o'r 'Tair Gwith (Niweidiol) Balfawd ('cernod')' am iddo arwain at Frwydr Camlan. Cyfeira triawd arall (59) at ymrannu llu Arthur yn dair rhan cyn y frwydr yn un o'r 'Tri Anfad ('anffodus') Gynghor'. Disgrifir Brwydr Camlan ei hun yn un o 'Tri Ofergad ('brwydr ddiffrwyth') Ynys Prydain' am ei fod yn deillio o weithred dynghedfennol Gwenhwyfach yn taro Gwenhwyfar.<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, arg. newydd 1991).</ref>
 
Mae llawer o drafod wedi bod ynghylch lleoliad y frwydr, gyda'r awgrymiadau yn cynnwys [[Camelford]] yng [[Cernyw|Nghernyw]], [[Queen Camel]] yng [[Gwlad yr Haf|Ngwlad yr Haf]], sy'n agos i fryngaer [[South Cadbury]] a chaer Rufeinig ''Camboglanna'', efallai [[Birdoswald]] neu [[Castlesteads]]. Ceir Afon Camlan yn [[Eifionydd]] a chae o'r enw Camlan wrth waelod [[Bwlch Oerddrws]] ger [[Dolgellau]].
 
Ychydig o'r milwyr a ymladdodd yn y frwydr a ddihangodd yn fyw yn ôl y chwedlau, ond mae'r fersiynau o bwy yn union a oroesodd y frwydr yn amrywio. Ymhlith y rhai a enwir mae'r seintiau [[Derfel Gadarn]] a [[Pedrog]], [[Morfran]] mab [[Tegid Foel]] a [[Ceridwen|Cheridwen]], a ddihangodd am ei fod mor hyll, a Sandde Bryd Angel, a ddihangodd am ei fod mor hardd fel bod pawb yn credu nad meidrolyn ydoedd.