Antonín Dvořák: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Gallai'r rhain barn am boblogrwydd y Hiwmorésg a "Caneuon a Ddysgodd fy Mam i Mi" wedi bod yn gywir 80 mlynedd yn ôl, ond maent wedi dyddio erbyn hyn.
Llinell 5:
Cychwynodd ganu'r [[ffidil]] yn chwech oed ac yn 1872 perfformiwyd ei waith yn gyhoeddus am y tro cyntaf ym [[Prag|Mhrag]]. Deisyfodd gydnabyddiaeth a chynulleidfa ehangach, felly cystadleuodd mewn cystadleuaeth yn [[Berlin]], ond nid enillodd (gyda'i symffoni cyntaf) a chollwyd y llawysgrif am rai blynyddoedd. Yn 1874 enillodd gystadleuaeth gyfansoddi Awstraidd ac eto yn 1876 ac 1877, gyda [[Johannes Brahms|Brahms]] yn un o'r beirniaid. Rhoddodd Brahms eirda drosto i'w gyhoeddwr, Simrock, a aeth ati'n ddiymdroi i gomisiynnu'r 'Dawnsfeydd Slavonig Dances, Op. 46.
 
Yn ystod ei oes sgwennodd gyfanswm o ddeg opera, pob un gyda libreto yn yr iaith Tsiec, gydag ysbryd genedlaetholgar Tsiecaidd yn llifo drwyddynt. Ei opera mwyaf poblogaidd yw ''[[Rusalka]]''. Ystyrir ei seithfed o'i ''[[Hiwmoresgau]]'' hefyd yn hynod boblogaidd a'r gân ''Když mne stará matka zpívat učívala'' ("Caneuon a Ddysgodd fy Mam i Mi").
 
Disgrifiwyd Dvořák fel "o bosib ... cyfansoddwr mwyaf ei oes".<ref name="Taruskin 2010, 754">Taruskin (2010), 754</ref>