Medrawd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

cymeriad o fewn chwedloniaeth Arthuraidd
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Cymeriad yn y chwedlau am y Brenin Arthur yw '''Medrawd'''. Dywedir ei fod yn nai i Arthur, ac iddo wrthryfela yn ei erbyn, gan achosi Brwydr Camlan. Ceir y cofnod cynharaf ...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 08:12, 1 Mawrth 2008

Cymeriad yn y chwedlau am y Brenin Arthur yw Medrawd. Dywedir ei fod yn nai i Arthur, ac iddo wrthryfela yn ei erbyn, gan achosi Brwydr Camlan.

Ceir y cofnod cynharaf am y frwydr yn yr Annales Cambriae am y flwyddyn 537:

Gueith camlann in qua Arthur eroxt Medraut corruerunt.
("Brwydr Camlan, yn yr hon y bu farw Arthur a Medrawd")

Ceir yr hanes yn llawn gan Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britanniae, sy'n dweud fod Medrawd wedi cipio teyrnas Arthur a'i wraig, Gwenhwyfar. Mae traddodiad arall fod y cweryl rhwng Arthur a Medrawd wedi dechrau fel ffrae rhwng Gwenhwyfar a'i chwaer Gwenhwyfach.