William Retlaw Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''William Retlaw Jefferson Williams''' (tua 1863-20 Mawrth 1944) yn gyfreithiwr, achydd a hanesydd a gyhoeddodd nifer o lyfrau ar hanes...'
 
Llinell 3:
== Bywyd Personol ==
 
Ganwyd Williams yn [[Aber Clydach|Aberclydach]], Llanfeugan, [[Sir Frycheiniog]] yn fab i John James Williams, meddyg a Jane (ne Robertson) ei wraig. Roedd John James yn aelod o’r orsedd gan ddefnyddio’r llysenw ''Brychan''. Roedd William yn frawd i'r [[Alice Matilda Langland Williams|Fonesig Mallt Williams]] (Alice Mallt) awdur ac arbenigwr ar ddiwylliant rhyng Geltaidd a [[Gwenfrida Williams]] awdur.
 
Priododd Mary Jones ym 1890, yr oedd hi yn ferch i William Morgan (bu farw ei thad pan oedd hi’n ifanc ac ailbriododd ei mam a gŵr o’r enw Jones). Ni fu iddynt Blant.