Ivy League: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'right|bawd|275px|Lleoliadau prifysgolion yr Ivy League Cymdeithas athletaidd golegol sy'n cynnwys timau chwaraeon o wy...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 10:27, 14 Gorffennaf 2017

Cymdeithas athletaidd golegol sy'n cynnwys timau chwaraeon o wyth prifysgol breifat yng ngogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau yw'r Ivy League ("Cynghrair Eiddew"). Mae'r enw hefyd yn cael ei ddefnyddio yn gyffredin i gyfeirio at yr wyth sefydliad fel grŵp y tu hwnt i gyd-destun chwaraeon. Dyma'r wyth prifysgol: Prifysgol Brown, Prifysgol Columbia, Prifysgol Cornell, Coleg Dartmouth, Prifysgol Harvard, Prifysgol Pennsylvania, Prifysgol Princeton a Phrifysgol Yale. Yn aml, mae gan y term "Ivy League" arwyddocâd o ragoriaeth academaidd ac elitiaeth gymdeithasol.

Lleoliadau prifysgolion yr Ivy League

Defnyddiwyd y term "Ivy League" yn answyddogol yn y 1930au, ond defnyddiwyd yn swyddogol am y tro cyntaf ym 1945 ar gyfer cystadleuaeth bêl-droed Americanaidd rhwng yr wyth prifysgol. Ffurfiwyd y gynghrair yn ei ffurf bresennol, sy'n cynnwys pob math o chwaraeon rhyng-golegol, ym 1954.

Dolen allanol