Ivy League: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'right|bawd|275px|Lleoliadau prifysgolion yr Ivy League Cymdeithas athletaidd golegol sy'n cynnwys timau chwaraeon o wy...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:IvyLeagueLocations.png|right|bawd|275px|Lleoliadau prifysgolion yr Ivy League]]
 
Cymdeithas athletaidd golegol sy'n cynnwys timau chwaraeon o wyth prifysgol breifat yng ngogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau yw'r '''Ivy League''' ("Cynghrair Eiddew"). Mae'r enw hefyd yn cael ei ddefnyddio yn gyffredin i gyfeirio at yr wyth sefydliad fel grŵp y tu hwnt i gyd-destun chwaraeon. Dyma'r wyth prifysgol: [[Prifysgol Brown]], [[Prifysgol Columbia]], [[Prifysgol Cornell]], [[Coleg Dartmouth]], [[Prifysgol Harvard]], [[Prifysgol Pennsylvania]], [[Prifysgol Princeton]] a [[Prifysgol Yale|Phrifysgol Yale]]. Yn aml, mae gan y term "Ivy League" arwyddocâd o ragoriaeth academaidd ac elitiaeth gymdeithasol.
 
Defnyddiwyd y term "Ivy League" yn answyddogol yn y 1930au, ond defnyddiwyd yn swyddogol am y tro cyntaf ym 1945 ar gyfer cystadleuaeth [[pêl-droed Americanaidd|bêl-droed Americanaidd]] rhwng yr wyth prifysgol. Ffurfiwyd y gynghrair yn ei ffurf bresennol, sy'n cynnwys pob math o chwaraeon rhyng-golegol, ym 1954.