Gwyddonias: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Gweler hefyd: clean up using AWB
Figaro-ahp (sgwrs | cyfraniadau)
Ehangiad sylweddol.
Llinell 4:
Mae'n annodd i ddiffinio yn union beth yw ffiniau'r term. Mae'r straeon yn aml ynglyn â'r dyfodol neu'r gofod neu effaith datblygiad newydd technolegol ar fyd heddiw. Er gall ymddangos yn unrhyw gyfrwng mae'n fwyaf amlwg ym mydoedd [[ffilm]], [[nofel]]au a [[gemau cyfrifiadurol]].
 
=== Categoreiddio ffuglen wyddonol ===
Enghraifft gynnar o lyfr [[Cymraeg]] gwyddonias yw'r nofel ''[[Wythnos Yng Nghymru Fydd]]'' ([[1957]]) gan [[Islwyn Ffowc Elis]], sy'n cynnig dwy weledigaeth dra gwahanol o Gymru'r dyfodol yn y flwyddyn 2033.
 
Yn fras, mae modd categoreiddio straeon ffuglen wyddonol ar hyd ystod rhwng ffuglen wyddonol 'caled' a 'meddal' Mae'r termau cyffredinol hyn yn disgrifio'r graddau y mae'r dechnoleg dychmygol sy'n ymddangos yn wyddonol, yn gredadwy ac/neu yn cael ei drin yn gyson o fewn y stori.
 
Yn gyffredinol, mae ffuglen wyddonol ar pen 'galed' y sbectrwm wedi'i wreiddio mewn gwyddoniaeth cyfredol y byd go iawn. Ni fydd y dechnoleg yn caniatáu pethau sy'n mynd yn groes i ddealltwriaeth gwyddonol (er enghraifft teithio'n gyflymach na golau neu drwy amser), neu os yw'r dechnoleg yn caniatáu unrhywbeth o'r fath bydd ymdrech i esbonio sut mae'n gweithio o fewn gwyddoniaeth, hyn yn oed os yw'n ddamcaniaethol yn unig. Ar y lleiaf bydd unrhyw dechnoleg ddamcaniaethol yn cael ei esbonio mewn ffordd sy'n gyson o fewn bydysawd y gwaith ffuglennol. Mewn ffuglen wyddonol galed, yn aml bydd y dechnoleg ei hunan yn elfen ganolog o'r plot, gyda'r stori'n archwilio effeithiau posib y dechnoleg ar y ddyniolaeth neu gymdetihas. Mae enghreifftiau o ffuglen wyddonol galed yn cynnwys y drioleg ''Mars'' gan [[Kim Stanley Robinson]], a'r ffilm ''[[Gattacca]]''.
 
Ar ben arall y sbectrwm, bydd y dechnoleg mewn ffuglen wyddonol meddal yn fwy ffantasïol. Os geir esboniad o gwbl o sut mae'r dechnoleg yn gweithio, bydd yn tueddu fod yn niwlog ac amwys a/neu'n dibynnu ar elfennau hollol dychmygol nad ydynt yn bodoli'r tu allan i fydysawd y gwaith ffuglenol ei hunan. Enghreifftiau adnabyddus o ffuglen wyddonol meddal yw'r gyfres deledu ''[[Doctor Who]]'', ffilmiau ''[[Star Wars]]'' a bydysawd [[Marvel]].
 
Pegynau eithafol yw'r categorïau uchod a mae'r mwyafrif o enghreifftiau o ffuglen wyddonol yn cwympo rhywle rhwng y ddau begwn. Er enghraifft, gellid dweud bod y gyfres ''[[Star Trek]]'' yn fwy 'caled' na ''[[Star Wars]]'' ond yn fwy meddal na ''[[Firefly]]''.
 
O fewn y genre cyffredinol, mae nifer draddodiadau gwahanol o ran cyd-destunnau storïol. Defnyddir y term [[Opera Ofod]] (a ddaw o'r cysyniad o [[Opera Sebon]]) i ddisgrifio straeon fel ''[[Star Trek]]'', ''[[Star Wars]]'' a nofelau ''[[The Culture]]'' gan [[Iain M. Banks]]. Fel mae'r enw'n awgyrmu, mae'r straeon epig hyn wedi'u gosod ar longau ofod, neu'n cynnwys teithio rhwng planedau, ac fel arfer yn cynnwys nifer fawr o gymeriadau. Mae creuaduriaid estron o blanedau eraill yn gyffredin mewn Opera Ofod, ond ceir digon o enghreifftiau hebddynt, fel ''[[Firefly]]'' neu ''[[Battlestar Galactica]]''.
 
Math arall o ffuglen wyddonol yw ffuglen ddystopaidd. Mae straeon dystopaidd yn dychmygu dyfodol dywyll i'r ddyniolaeth (neu ran ohonni), yn aml oherwydd llywodraeth [[totalitariaeth|totalitaraidd]] neu effeithiau negyddol technoleg ar gymdeithas neu'r amgylchedd. Mae enghreifftiau o'r math yma o ffuglen wyddonol yn cynnwys y ffilm ''[[Blade Runner]]'' a'r nofel ''[[Nineteen-Eighty-Four]]'' gan [[George Orwell]]. Yn gorgyffwrdd â ffuglen ddystopaidd mae ffuglen ôl-apocalyptaidd, sef ffuglen sy'n dychmygu dyfodol yn dilyn trychineb neu ddigwyddiad a newidiodd y byd yn sylweddol er gwaeth, megis trychineb amgylcheddol neu ryfel catastroffig. Mae engrhefftiau'n cynnwys y ffilimiau ''[[Mad Max]]'' neu'r gyfres gemau cyfrifiadur ''[[Fallout]]''. Gall y gymdeithas sy'n gorosi trychineb o'r fath - os yw'n goroesi o gwbl - feddu ar nodweddion dystopaidd.
 
=== Hanes ===
 
Er bod gan ffuglen wyddonol ei gwreiddiau mewn llenyddiaeth llawer hŷn, y gweithiau hynaf y mae'r term yn cael ei ddefnyddio i'w disgrifio ydy gwaith [[Mary Shelley]], yn enwedig ''[[Frankenstein]]'' (1918) ac ''[[The Last Man]]''<ref name="shelley">{{cite encyclopedia|url=http://www.sfhomeworld.org/exhibits/homeworld/scifi_hof.asp?articleID=62|title=Mary W. Shelley|encyclopedia=Encyclopedia of Science Fiction|author=John Clute and Peter Nicholls|publisher=Orbit/Time Warner Book Group UK|year=1993|accessdate=2007-01-17}}</ref>. Fodd bynnag, mae'r genre modern yn dechrau o ddifrif gyda dau awdur o ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef y Sais[[H. G. Wells]] a'r Ffrancwr [[Jules Verne]]<ref name="verne wells">{{cite encyclopedia
|url=http://encarta.msn.com/encyclopedia_761563123_2/Science_Fiction.html
|encyclopedia=Encarta Online Encyclopedia
|publisher=Microsoft
|title=Science Fiction
|year=2006
|accessdate=2007-01-17
|archiveurl=http://www.webcitation.org/5kwqw46wy?url=http://encarta.msn.com/encyclopedia_761563123_2/Science_Fiction.html
|archivedate=1 November 2009
|deadurl=yes
|df=dmy-all
}}</ref>.
 
=== Ffuglen wyddonol yn y Gymraeg ===
 
Mae'r mwyafrif o ffuglen wyddonol wreiddiol yn y Gymraeg wedi bod ar ffurf llenyddiaeth yn hytrach na ffuglen weledol. Enghraifft gynnar o lyfr [[Cymraeg]] gwyddonias yw'r nofel ''[[Wythnos Yng Nghymru Fydd]]'' ([[1957]]) gan [[Islwyn Ffowc Elis]], sy'n cynnig dwy weledigaeth dra gwahanol o Gymru'r dyfodol yn y flwyddyn 2033. Aeth Elis ymlaen i ysgrifennu ail nofel ffuglen wyddonol yn 1968, ''[[Y Blaned Dirion]]'', am daith ar long ofod i blaned pell. Yn 1976 cyhoeddwyd y nofel ''[[Y Dydd Olaf]]'' gan [[Owain Owain]], enghraifft o ffuglen ddystopaidd; enghraifft arall mwy diweddar yw yw ''[[Annwyl Smotyn Bach]]'' gan [[Lleucu Roberts]].
 
==Gweler hefyd==
*[[Y Dydd Olaf]]
*[[Ffantasi]]
 
{{eginyn llenyddiaeth}}