Mosaïque FM: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Llinell 1:
[[Image:logo mosaiqueFM.gif|200px|bawd|Logo Mosaïque FM]]
 
Prif orsaf radio preifat [[Tunisia]] yw '''Mosaïque FM''' ([[Arabeg]] موزاييك أف أم). Mae'n darlledu yn yr iaith Arabeg 24 awr y dydd ar gyfer [[Tunis]] a'r cylch ([[Tunis Fwyaf]]) yn bennaf ar [[FM]] ac mae hefyd ar gael ledled y byd ar y we, yn rhad ac am ddim.
 
Cafodd ei lawnsio ar [[7 Tachwedd]] [[2003]]. Lleolir ei bencadlys yn ninas Tunis, prifddinas Tunisia (Immeuble Babel Bloc D, Montplaisir, Tunis). Y cyflwynydd cyntaf y cafodd ei lais ei ddarlledu pan agorwyd yr orsaf oedd Nizar Chaari, sydd erbyn heddiw yn gyfrifol am y rhaglenni.
 
Ceir cymysgedd o adloniant ar y radio, yn rhaglenni sgwrs, cerddoriaeth Arabaidd a gorllewinol, chwaraeon a newyddion, ond gyda'r pwyslais ar gerddoriaeth.
 
Cyn lawnsio Mosaïque FM dim ond tua 20 y cant o'r boblogaeth oedd yn gwrando ar y radio yn rheolaidd. Erbyn heddiw, yn ôl ffigyrau MédiaScan, mae tua 50 y cant o bobl Tunisia yn gwrando yn rheolaidd gyda 75 ycant yn gwrando'n bennaf neu'n unig ar Mosaïque FM. Mae rhan o'r llwydiant yn ddiau am fod yr orsaf wedi dewis trafod pynciau dadleuol a fu'n ''tabŵ'' tan yn ddiweddar, gan cynnig fforwm boblogaidd i bobl ifainc a'r dosbarth canol.
 
Mae Mosaïque yn perthyn i grŵp busnes Karthago (a enwir ar ôl [[Carthago]]), sy'n perchen i Belhassen Trabelsi, brawd [[Leïla Ben Ali]] (gwraig ddylanwadol yr Arlywydd [[Zine el-Abidine Ben Ali]]).