Y Greal Santaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Nanteos
ehangu
Llinell 1:
[[Image:Sangreal.jpg|thumb|200px|Y Greal Sanctaidd yng Nghastell Corbin; llun gan [[Arthur Rackham]], 1917]]
:''Mae hon yn erthygl am y llestr santaidd. Am y cylchgronau cynnar gweler [[Y Greaf (1807)]] a [[Greal neu Eurgrawn: sef Trysorfa Gwybodaeth|Greal]].''
 
Yn ôl mytholeg [[Cristnogaeth|Gristnogol]], '''y Greal Santaidd''' neu'r '''Sangreal''' oedd y llestr a ddefnyddiodd [[Iesu]] yn y [[Swper Olaf]]. Dywedid fod gan y llestr yma alluoedd goruwchnaturiol.
 
Crybwyllir y Greal gyntaf yn ''[[Perceval, le Conte du Graal]]'' gan Chrétien de Troyes, sy'n dyddio rhwng [[1180]] a [[1191]]. Cysylltir y Greal Santaidd yn aml a [[Joseff o Arimathea]]; ymddengys fod hyn yn dyddio o ''Joseph d'Arimathie'' gan [[Robert de Boron]] yn ddiweddar yn y [[12fed ganrif]], lle dywedir i Joseff dderbyn y Greal gan weledigaeth o'r Iesu a'i yrru gyda'i ddilynwyr i [[Ynys Brydain]]. Mewn fersiynau diweddarach, dywedir i Joseff ddefnyddio'r Greal i gasglu gwaed Iesu wrth ei gladdu. Daeth hanes y Greal yn ran bwysig o'r chwedlau ynghlwm wrth y brenin [[Arthur]], gan ymddangos gyntaf yn y cyswllt yma yng ngwaith [[Chrétien de Troyes]].
 
Cred rhai ysgolheigion, er enghraifft [[Roger Sherman Loomis|R. S. Loomis]], fod hanes y Greal yn deillio o ffynhonnell [[Y Celtiaid|Geltaidd]], gan gymharu'r llestr â'r cyfeiriadau niferus yn y chwedlau Celtaidd at beiriau rhyfeddol fel y [[Pair Dadeni]], a'r peiriau hynny yn eu tro yn cynrychioli'r [[duwies|duwiesau]] Celtaidd a gysylltir â ffrwthlondeb, dadeni, a ffynhonell ddihysbydd bywyd ei hun. Cred eraill mai dim ond tarddiad Cristnogol sydd i'r chwedl.
 
Yn Gymraeg, nid yw ''[[Peredur fab Efrawg]]'' yn [[y Tair Rhamant]] yn crybwyll y Greal wrth ei enw. Daw'r cyfeiriad cyntaf at yr enw yn ''[[Ystoryaeu Seint Greal]]'' , cyfeithiad yn y [[14eg ganrif]] o ddau destun [[Ffrangeg]] cynharach.
 
Yn ddiweddarach, cysylltwyd y Greal a phlasdy [[Nanteos]] yng [[Ceredigion|Ngheredigion]]. Roedd llestr yno a elwid wrth yr enw Cwpan Nanteos. Dywedid mai hwn oedd y Greal, wedi ei gludo o [[Ynys Wydrin]] i [[Abaty Ystrad Fflur]] ac yna i Nanteos.
 
 
[[Categori:Cylch Arthur]]