Thomas Wood (AS Sir Frycheiniog): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Thomas Wood''' ([[21 Ebrill]], [[1777]] - [[26 Ionawr]], [[1860]]) yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Torïaidd / Ceidwadol]] bu'n cynrychioli [[Sir Frycheiniog (etholaeth seneddol)|Sir Frycheiniog]] yn [[Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Nhŷ'r Cyffredin]] Rhwng 1806-1847.
 
Roedd Wood yn fab i Thomas Wood a Mary Williams ei wraig, merch ac aeres Syr Edward Williams o Gastell Llangoed. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Harrow (1788-1795) a [[Coleg Oriel, Rhydychen|Choleg Oriel, Rhydychen]] (1796). Roedd y teulu wedi caffael ar ystadau sylweddol yn Middleham, Swydd Efrog, [[Gwernyfed]] ac yn Littleton ac Astlam ym Middlesex. Priododd dwywaith ei wraig gyntaf oedd y Ledi Caroline Stewart, merch Robert Stewart, Ardalydd 1af Londonderry; bu iddynt 4 mab a 2 ferch. Bu ei fab y Cyrnol Thomas Wood yn aelod seneddol dros Middlesex. Ei ail wraig oedd y Ledi Frances Pratt, merch Charles Pratt, Iarll 1af Camden.<ref>The History of Parliament online ''WOOD, Thomas (1777-1860), of Gwernyfed Park, Three Cocks, Brec. and Littleton Park, nr. Staines, Mdx.'' [http://www.historyofparliamentonline.org/volume/1820-1832/member/wood-thomas-1777-1860] adalwyd 20 Rhagfyr 2015</ref>