Titan (lloeren): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 25:
Y mae atmosffer Titan yn fwy trwchus nag yw'n hatmosffer ni, ac wedi ei wneud allan o amrywiaeth o folecylau biocemegol, gan gynnwys methan, [[hydrogen]] a [[carbon|charbon]].
 
Mae Titan yn debyg o ran crynswth a chyfansoddiad i'r lloerennau Ganymede, [[Callisto (lloeren)|Callisto]], [[Triton (lloeren)|Triton]] ac efallai Plwton, hynny ydy 50% iâ dŵr a 50% craig. yn ôl pob tebyg mae Titan yn cynnwys sawl haen wedi eu cyfansoddi o ffurfiau crisial gwahanol o iâ, gyda chalon greigiog tua 3400 km ei hyd. Gallai'r galon ddal i fod yn boeth. Er bod ganddi gyfansoddiad tebyg i'r lloeren Rhea a lloerennau eraill Sadwrn, mae hi'n ddwysach oherwydd ei bod mor fawr fel mae ei dwyster yn cywasgu ei thu mewn.
 
Titan yw'r unig lloeren o fewn Cysawd yr Haul a chanddi awyrgylch o gryn arwyddocâd. Ar yr arwyneb mae ei gwasgedd dros 1.5 bar (50% yn uwch na'r Ddaear). Cyfansoddwyd yn bennaf gan nitrogen molecwlaidd (fel ar y Ddaear) gyda tua 6% o [[argon]] ac ychydig o fethan. O ddiddordeb ydy bod yna hefyd olion o nid llai na ddwsin o gyfansoddion organig (fel [[ethan]], [[seianid hydrogen]], [[carbon deuocsid]]) a dŵr. Mae'r pethau organig yn cael eu ffurfio wrth i fethan, sy'n goruchafu awyrgylch uchaf Titan, yn cael ei dorri gan olau'r Haul. Mae'r canlyniad yn debyg i'r smog a welir uwchben dinasoedd mawr, ond yn fwy trwchus. Mae hynny'n debyg i'r Ddaear yn ystod ei hanes cynnar, ar ddechrau bywyd. Ond mae'r awyrgylch tawchog trwchus yn ei wneud yn anodd i weld arwyneb Titan.