Wranws (planed): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 88:
|}
 
Y seithfed [[planed|blaned]] oddi wrth yr [[Haul]] a'r trydydd mwyaf o ran tryfesur yw '''Wranws'''. Mae Wranws yn fwy ei dryfesur ond yn llai ei gynhwysedd na [[Neifion (planed)|Neifion]]. Enwyd Wranws ar ôl [[OuranosWranos (duw)|Wranos]], duw Groeg y nefoedd.
 
Darganfuwyd Wranws, y blaned gyntaf i gael ei darganfod yn amserau modern, gan [[William Herschel]] ar y [[13 Mawrth|13eg o Fawrth]], [[1781]]. Roedd mewn gwirionedd wedi cael ei gweld llawer gwaith o'r blaen ond wedi cael ei ystyried yn seren (cafodd ei gatalogio fel '''34 Tauri''' ym [[1690]] gan [[John Flamsteed]]). Cafodd ei enwi gan Herschel fel "the Georgium Sidus" (y blaned Sioraidd) i anrhydeddu ei noddwr, [[Siôr III, brenin y Deyrnas Unedig]]; roedd eraill yn ei galw wrth yr enw "Herschel". Cafodd yr enw "Wranws" ei gynnig gan [[Bode]] mewn cydymffurfiaeth â'r enwau planedol eraill o [[mytholeg Glasurol|fytholeg glasurol]] ond ni ddaeth mewn defnydd cyffredin tan [[1850]].