Yr Iseldiroedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 217:
Daeth yr Iseldiroedd yn enwog trwy'r byd am ei harlunwyr. Yn y [[17g]], yng nghyfnod [[Gweriniaeth yr Iseldiroedd]], roedd arlunwyr megis [[Rembrandt Harmenszoon van Rijn|Rembrandt van Rijn]], [[Johannes Vermeer]], [[Jan Steen]], [[Jacob van Ruysdael]] ac eraill. Dilynwyd hwy yn y [[19eg ganrif|19eg]] a'r [[20g]] gan [[Vincent van Gogh]] a [[Piet Mondrian|Piet Mondriaan]].
 
Ymhlith athronwyr enwog yr Iseldiroedd mae [[Erasmus|Erasmus o Rotterdam]] a [[Baruch Spinoza|Spinoza]], ac yn yr Iseldiroedd y gwnaeth [[René Descartes]] ei waith pwysicaf. Mae gwyddonwyr o'r Iseldiroedd yn cynnwys [[Christiaan Huygens]] (1629-1695), darganfyddwr [[Titan (lloeren)|Titan]], un o leuadau [[Sadwrn (planed)|Sadwrn]], a dyfeisiwr y cloc pendil, ac [[Antonie van Leeuwenhoek]], y cyntaf i ddisgrifio organebau un gell gyda meicroscop.
 
Ymhlith awduron pwysicaf yr Iseldiroedd mae [[Joost van den Vondel]] a [[Pieter Corneliszoon Hooft|P.C. Hooft]] o'r [[17g]], [[Multatuli]] yn y [[19g]] ac yn yr [[20g]] awduron fel [[Harry Mulisch]], [[Jan Wolkers]], [[Simon Vestdijk]], [[Cees Nooteboom]], [[Gerard van het Reve|Gerard (van het) Reve]] a [[Willem Frederik Hermans]]. Cyfieithwyd dyddiadur [[Anne Frank]] i lawer o ieithoedd.