Gwent Is Coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Cantref yn ne-ddwyrain Cymru'r Oesoedd Canol oedd '''Gwent Is Coed''' (hefyd weithiau '''Gwent Iscoed'''). Gyda chantref Gwent Uwch Coed roedd yn un o ddau gantref ar dir... |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 3:
Roedd coedwig fawr Coed Gwent yng nghanol yr hen deyrnas yn ei rhannu'n ddwy uned naturiol ac felly fe'i gelwid yn Went Is Coed a Gwent Uwch Coed. Gwent Is Coed oedd y lleiaf o'r ddau gantref o ran ei faint ond y pwysicaf o ran ei boblogaeth a'i ganolfannu. Gorwedd ar arfordir y de-ddwyrain ar lan [[Môr Hafren]], ar y ffin â [[Lloegr]] gydag [[Afon Wysg]] yn dynodi'r ffin. I'r gorllewin ffiniai â chantref [[Gwynllwg]] ac i'r gogledd â Gwent Uwch Coed.
Ar sawl cyfrif, Gwent Is Coed oedd yr ardal bwysicaf yn y [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|Gymru Rufeinig]]. Yma y codwyd dinas Rufeinig [[Caerleon-ar-Wysg]]
Roedd y tir arfordirol yn arbennig o ffrwythlon. Sefydlodd breninoedd Gwent ei brif lys yn [[Llanfair Is Coed]] a daeth Caerwent yn ganolfan eglwysig.
|