Amphitrite: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
'''Amphitrite''' yw merch [[Nereus]] a [[Doris]] a gwraig [[Poseidon]] ym [[mytholeg Roeg]]. Hi yw [[duwies]] y [[môr]] a brenhines popeth sy'n byw ynddo.
 
Yn ôl y chwedl, gwelodd Poseidon hi'n dawnsio gyda'r [[Neriaid]] ar ynys [[Naxos]] un diwrnod. Cipiodd hi a'i dwyn i'w deyrnas. Nid yw hi'n cael ei glaw'n wraig Poseidon yng ngwaith [[Homer]], ond yn dduwies y môr sy'n hyrddio'r tonnau yn erbyn y creigiau ac yn gofalu am creaduriaid y môr. Ei fab yw [[Triton (mytholeg)|Triton]], un o dduwiau'r môr.
 
Nid oedd yn arferol addoli Amphitrite ar wahân yn yr [[Henfyd]]. Roedd hi'n un o hoff wrthrychau dylunwyr mosaic a cherflunwyr yr Henfyd. Mae hi'n cael ei phorteadu gyda rhwyd am ei gwallt, crafangau [[cranc]]od yn y goron ar ei phen, yn cael ei chludo gan Tritoniaid neu gan [[dolffin]]au neu greaduriaid morol eraill, neu'n cael eu tynnu ganddynt mewn cerbyd o gregynnau.