Gordian III: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
Enwodd y Senedd ddau ymerawdwr arall, [[Balbinus]] a [[Pupienus]]. Yr oedd y ddau yma'n amhoblogaidd yn Rhufain, a gorfodwyd hwy i enwi Gordian III fel olynydd, gan fod ei dad a'i ewythr ef wedi bod yn llawer mwy poblogaidd. Pan laddwyd Balbinus a Pupienus gan filwyr [[Gard y Praetoriwm]] daeth Gordian III yn ymerawdwr, yn ddim ond 13 oed, ar [[29 Gorffennaf]] [[238]].
 
Penododd Gordian ei diwtor Timesteus yn bennaeth Gard y Praetoriwm, ac yn [[241]] priododd Furia Sabina Tranquilina, merch Timesteus. Tua'r adeg honno ymosododd yr Almaenwyr ar y ffiniau ar [[Afon Rhein]] ac [[Afon Donaw]] ac ymosododd y [[Persiaid]] dan [[Sapor I]] ar dalaith [[Mesopotamia]], gan groesi [[Afon Ewffrates]]. Am y tro olaf mewn hanes, agorodd Gordian ddrysau teml [[JanusIanws (duw)|Ianws]] a chychwynnodd tua'r dwyrain gyda'i fyddin. Llwyddodd i orchfygu'r Persiaid a'u gwthio i'r dwyrain o'r Ewffrates. Pan oedd wrthi'n paratoi cynlluniau pellach gyda Timesteus, bu hwnnw farw mewn amgylchiadau anhysbys.
 
Trosgwyddodd Gordian y swydd o bennaeth y Praetoriaid i Marcus Julius Phillipus ([[Philip yr Arab]]) ac aeth ymlaen a'r ymgyrch. Gwrthymosododd y Persiaid, ac yn ôl eu croniclau hwy gorchfygasant Gordian a'i ladd mewn brwydr ger Faluja (Irac). Yn ôl y ffynonellau Rhufeinig, fodd bynnag, nid oedd Gordian yn y cyffiniau hyn. Yn hytrach Philip yr Arab a'i llofruddiodd, a'i gyhoeddi ei hun yn ymerawdwr.