Cai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Caer Gai |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
[[Image:Sir Kay breaketh his sword.jpg|thumb|200px|''Sir Kay breaketh his sword at ye Tournament'', gan [[Howard Pyle]]]]
Cymeriad a gysylltir a'r brenin [[Arthur]] mewn chwedlau Cymreig yw '''Cai fab Cynyr''' neu '''Cai Hir'''. Ymddengys yn chwedl ''[[Culhwch ac Olwen]]'', lle mae'n cynorthwyo Culhwch i gyflawni'r tasgau a roddwyd iddo gan [[Ysbaddaden Bencawr]] er mwyn iddo gael priodi [[Olwen]]. Cai sy'n cyflawni'r dasg gyntaf, sef cael cleddyf Wrnach Wyddel. Ef hefyd, gyda [[Bedwyr]], sy'n teithio ar ysgwydd [[Eog Llyn Llyw]] i gael hyd i'r carcharor [[Mabon fab Modron]]. Mae'n cael barf y cawr [[Dillus Farfog]] i wneud cynllyfan ar gyfer yr helgi
Yn [[y Tair Rhamant]], mae Cai yn gymeriad pwysig, ac ymddengys yn chwedl ''[[Breuddwyd Rhonabwy]]'' hefyd. Yn y chwedlau hyn, mae'n gymeriad mwy tebyg i'r hyn ydyw yn y chwedlau Arthuraidd Ffrengig a Seisnig. Ymddengys fel "Keu" yn [[Ffrangeg]] a "Kay" yn [[Saesneg]]. Dywedir yn y chwedlau hyn ei fod yn fab i Ector, a fabwysiadodd Arthur wedi i'r dewin [[Myrddin]] ei ddwyn ymaith oddi wrth ei rieni, [[Uthr Bendragon]] ac [[Eigr]].
|