Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Fforest Clud"

Ychwanegwyd 31 beit ,  3 blynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
B (Symudodd Padrianprice y dudalen Fforest Clun i Fforest Clud: Cywiro llithriad)
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap)
Cramen garreg o ucheldir yn nwyrain [[canolbarth Cymru]] yw '''Fforest Clud''' ([[Saesneg]]: ''Radnor Forest''). Gelwir yr ucheldir yn 'fforest' am ei fod yn tir agored a osodwyd o'r neilltu ar gyfer [[hela]] gan arglwyddi lleol yn yr [[Oesoedd Canol]]. Roedd yn ffurfio calon yr ardal ddaearyddol ganoloesol a adwaenid fel [[Rhwng Gwy a Hafren]].
 
Ar [[22 Mehefin]], [[1402]], cafodd [[Owain Glyndŵr]] fuddoliaethfuddugoliaeth fawr ar y Saeson ym [[Brwydr Bryn Glas]], ar odre ogleddol Fforest Clud.
 
Pwyntiau uchaf Fforest Clud yw'r [[Rhos Fawr]], [[llwyfandir]] eang o laswellt a [[grug]] sy'n cyrraedd uchder o 660 m, a llwyfandir cyffelyb i'r dwyrain, Y Domen Ddu (''Black Mixen'' yn Saesneg), bron ar y ffin â [[Swydd Henffordd]] yn [[Lloegr]]. Ceir mast darlledu ar ben y copa olaf.
 
Yn ôl traddodiad [[llên gwerin Cymru|llên gwerin]] lleol, bu [[draig]] yn byw yn y Fforest ers talwm. Am ei bod yn aflonyddu cymaint ar y trogolion, codasant cylch o bedair [[eglwys]] i'w hamgylchynnu. Cysegrwyd y pedair eglwys hynny, sef eglwysi [[Cefnllys|Llanfihangel Cefn-llys]], [[Llanfihangel Rhydieithon]], [[Llanfihangel Nant Melan]] a [[Llanfihangel Cascob]], i'r [[archangel]] Sant [[Mihangel]], sy'n gorchfygu'r ddraig yn y [[Beibl]]. Credid y byddai'r ddraig yn deffro eto pe dinistrid unrhyw un o'r pedair eglwys.<ref>[http://www.churchinwales.org.uk/swanbrec/churches/trails/dragons.htm "St Michael and the Dragon of Radnor Forest"] ar wefan yr [[Eglwys yng Nghymru]] ([[Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu]])</ref>
Defnyddiwr anhysbys