Paris (mytholeg): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Cymeriad ym [[Mytholeg Groeg]] oedd '''Paris''' ([[Hen Roeg]]: {{Hen Roeg|Πάρις}}; hefyd '''Alexander''' neu '''Alexandros'''). Mae'n fab i [[Priam]], brenin [[Caerdroea]], a [[Hecuba]]. Ef sy'n achosi [[Rhyfel Caerdroea]] a chwymp y ddinas, trwy gipio [[Helen (mytholeg)|Helen]], gwraig [[Menelaos]], brenin [[Sparta]].
 
Dechreua'r stori gyda phriodas [[Peleus]] a [[Thetis (mytholeg)|Thetis]]. Daw'r duwiau a'r duwiesau i gyd i'r wledd briodas, ond ni wahoddwyd [[Eris]], duwies anghydfod. Fel dial, mae Eris yn cymeryd afal aur, yn ysgrifennu "i'r harddaf" (τηι καλλιστηι) arno, a'i daflu i blith y gwahoddedigion. Canlyniad hyn yw ffrae rhwng y duwiesau [[Hera]], [[Athena]] ac [[Aphrodite]] pwy ddylai gael yr afal. Gofynnir i Paris farnu pa un o'r tair yw'r harddaf. Mae pob un o'r tair duwies yn addo gwobr i Paris os dyfarna'r afal iddi hi. Cynnig Aphrodite yw y caiff Paris y wraig brydferthaf yn y byd, [[Helen (mythologeg)|Helen]], gwraig [[Menelaos]] brenin [[Sparta]], yn gariad. Dyfarna Paris yr afal i Aphrodite.
 
Mae Paris yn cipio Helen, a'i dwyn i Gaerdroea, lle mae ei dad, Priam, yn frenin. Ymateb Menelaos yw gofyn cymorth ei frawd [[Agamemnon]], brenin mwyaf nerthol y Groegiaid. Gelwir arwyr y Groegiaid at ei gilydd, yn eu plith [[Achilles]] a'i gyfaill [[Patroclus]], yr hynafgwr [[Nestor]], [[Aiax (mytholeg)|Aiax]], [[Odysseus]], [[Calchas]] a [[Diomedes]], ac wedi ymgynull ar ynys [[Aulis]], maent yn hwylio am Gaerdroea.