Rhyfel Caerdroea: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 11:
Mae Paris yn cipio Helen, a'i dwyn i Gaerdroea, lle mae ei dad, [[Priam]], yn frenin. Ymateb Menelaos yw gofyn cymorth ei frawd [[Agamemnon]], brenin mwyaf nerthol y Groegiaid. Gelwir arwyr y Groegiaid at ei gilydd, yn eu plith [[Achilles]] a'i gyfaill [[Patroclus]], yr hynafgwr [[Nestor]], [[Aiax (mytholeg)|Aiax]], [[Odysseus]], [[Calchas]] a [[Diomedes]], ac wedi ymgynull ar ynys [[Aulis]], maent yn hwylio am Gaerdroea.
 
Y mwyaf nerthol o arwyr y Groegiaid yw Achilles, sy'n fab i'r dduwies [[Thetis (mytholeg)|Thetis]]. Pan oedd yn faban, roedd Thetis wedi ei ymdrochi yn [[afon Styx]] fel na ellid ei niweidio gan unrhyw arf; heblaw ar ei sawdl, lle roedd hi'n gafael ynddo. Lleddir Patroclus, cyfaill Achilles, gan [[Hector]], mab hynaf Priam a phrif arwr Caerdroea. Lleddir Hector ei hun gan Achilles, yma saethir Achilles ei hun yn ei sawdl gan Paris, ac mae'n marw o ganlyniad i'r anaf.
 
Wedi deng mlynedd o ymladd, mae Odysseus yn meddwl am gynllun i gipio'r ddinas. Mae'r Groegiaid yn adeiladu ceffyl pren anferth, ac yn cuddio milwyr o'i fewn. Wedyn mae'r Groegiaid i bob golwg yn ymadael. Llusgir y ceffyl i mewn i'r ddinas gan drigolion Caerdroea, sy'n dathlu eu buddugoliaeth, ond yn y nos mae'r Groegiaid yn dod allan o'r ceffyl a syrth y ddinas.