Culhwch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: Arwr y chwedl Gymraeg Canol ''Culhwch ac Olwen'' yw '''Culhwch'''. Yn y chwedl mae'n ceisio ennill llaw Olwen ferch y cawr Ysbaddaden Bencawr. Mae Culh... |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Arwr y chwedl [[Cymraeg Canol|Gymraeg Canol]] ''[[Culhwch ac Olwen]]'' yw '''Culhwch'''. Yn y chwedl mae'n ceisio ennill llaw [[Olwen]] ferch y cawr [[Ysbaddaden Bencawr]].
Mae Culhwch yn fab i [[Cilydd]] fab Celyddon Wledig a [[Goleuddydd]], merch Anlawd Wledig. Wedi i Goleuddydd farw, mae Cilydd yn ail-briodi. Dymuniad ei lysfam yw i Culhwch briodi ei merch hi. Pan wrthyd Culhwch, mae ei lysfam yn ei dynghedu na cheiff briodi neb ond Olwen - "y forwyn decaf erioed".
Mae Culhwch yn teithio i lys ei gefnder [[Arthur]] i gael ei gymorth a'i gynghor. Mae Arthur a'i wŷr, gan gynnwys [[Cai]] a [[Bedwyr]], yn penderfynu mynd gyda Chulhwch i lys Ysbaddaden i'w gynorthwyo. Mae'r cawr yn cytuno i roi Olwen i Culhwch ond ar yr amod ei fod yn cyflawni deugain o dasgiau (''[[anoethau]]'') anodd os nad amhosibl. Mae'r rhain yn cynnwys ceisio [[Mabon fab Modron]] a hela'r [[Twrch Trwyth]]. Gwŷr Arthur sy'n cyflawni'r tasgau hyn, ac nid yw Culhwch ei hun yn cymeryd fawr o ran ynddynt. Mae'r chwedl yn gorffen gyda marwolaeth Ysbaddaden a phriodas Culhwch ac Olwen.
|